Gwyddonwyr yn canfod y dystiolaeth gyntaf o ficroblastigau'n trosglwyddo o bryfed i ysglyfaethwyr mewn afonydd
22 Mai 2020
Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd a Labordai Ymchwil Greenpeace Prifysgol Caerwysg wedi dangos bod rhywogaeth o aderyn afonol yn llyncu cannoedd o ffibrau plastig bob dydd mewn ysglyfaethau pryfed.
Mae trochwyr hefyd yn anfwriadol yn bwydo miloedd o ffibrau plastig sydd yn y pryfed i'w cywion yn y nyth wrth iddyn nhw ddatblygu.
Mae'r adar cân dyfrol hyn yn dibynnu ar bryfed yr afon am fwyd, felly os caiff pryfed eu halogi'n eang â phlastig does dim modd iddyn nhw osgoi'r ffynhonnell hon o lygredd.
Yr astudiaeth newydd hon yw'r gyntaf i ddangos yn glir bod microblastigau - darnau o blastig dan 5mm o faint - yn cael eu trosglwyddo drwy weoedd bwyd afonol o bryfed i ysglyfaethwyr fel trochwyr. Cyhoeddir yr ymchwil heddiw yn y cylchgrawn Global Change Biology.
Dywedodd yr academyddion fod trosglwyddo cynifer o ddarnau o blastig i'r cywion yn y nyth yn frawychus - a bod angen deall canlyniadau'r cymeriant plastig hwn ar frys.
Dywedodd yr Athro Steve Ormerod, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd a'r prif awdur: "Dros yn agos i 40 mlynedd o ymchwilio i afonydd a throchwyr, wnes i erioed ddychmygu y byddai ein gwaith yn datgelu bod yr adar rhyfeddol hyn mewn perygl drwy lyncu plastigau - sy'n dangos y graddau mae'r broblem llygredd wedi datblygu.
"Mae'r un nodweddion sy'n golygu bod trochwyr wedi addasu gystal i fod yr unig adar cân sy'n gallu plymio a bwydo ar bryfed yr afon hefyd yn golygu na fydd dianc iddyn nhw o'r ffynhonnell enfawr hon o lygredd am ddegawdau.
Bu'r tîm, o Ysgol Biowyddorau a Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, a Labordai Greenpeace yng Nghaerwysg, yn archwilio baw a phelenni a ail-chwydwyd gan oedolion a chywion o blith y trochwyr.
Roedd oddeutu hanner yr 166 o samplau’n cynnwys darnau o ficroplastig yn 14 o'r 15 safle a astudiwyd, gyda'r nifer fwyaf mewn lleoliadau mwy trefol. Roedd y rhan fwyaf yn ffibrau o decstilau neu ddeunyddiau adeiladu.
Er ei bod yn ymddangos bod yr adar yn carthu'r microplastig yn gyflym iawn, pwysleisiodd y tîm fod angen deall yn llawnach unrhyw effeithiau niweidiol neu wenwynol o gymeriant dyddiol mor uchel.
Mae ymchwil blaenorol gan wyddonwyr Prifysgol Caerdydd wedi dangos bod hanner y pryfed yn afonydd de Cymru'n cynnwys darnau o ficroplastig.
Dywedodd Joe D’Souza, a ddechreuodd yr ymchwiliad fel myfyriwr israddedig yng Nghaerdydd: "Yng nghanol y gofid am y moroedd, mae'n dod yn gynyddol amlwg fod plastigau'n effeithio ar organebau mewn afonydd: mae'r rhain yn llwybrau pwysig rhwng y tir a'r môr i ficroplastigau fel ffibrau dillad, llwch teiars a gwastraff plastig arall sy'n darnio.
"Mae'r ffaith fod cynifer o bryfed yr afon wedi'u halogi'n golygu ei bod yn anochel y bydd pysgod, adar ac ysglyfaethwyr eraill yn codi'r pryfed llygredig hyn - ond dyma'r tro cyntaf i ni weld trosglwyddo drwy weoedd bwyd i anifeiliaid eraill sy'n byw'n rhydd ar yr afon."
Dywedodd David Santillo, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd Greenpeace ym Mhrifysgol Caerwysg: Dangosodd ein dadansoddiad fod y trochwyr yn yr astudiaeth yn amlyncu tua 200 o ronynnau plastig bob dydd o'r pryfed maen nhw'n eu bwyta. Roedd mwy na 75% o'r darnau a ddaethom o hyd iddynt yn llai na 0.5mm o faint, ond roedd rhai hyd at sawl milimetr o hyd.
Rydyn ni wedi gwybod ers tro byd bod microplastigau gan gynnwys polyester, polypropylen a neilon, yn llygru afonydd Prydain. Ond mae ein dull fforensig bellach yn datgelu pa mor helaeth mae'r deunyddiau hyn yn halogi gweoedd bwyd dŵr croyw. Amser a ddengys beth fydd effaith y cemegau a'r llygryddion yn y plastigau hyn ar dipwyr a'u cywion.”
Ychwanegodd yr Athro Ormerod: "Yng nghanol amgylchiadau byd-eang presennol Covid-19, mae problemau llygredd plastig yn ein hatgoffa nad yw'r problemau amgylcheddol mawr eraill wedi diflannu; allwn ni ddim fforddio tynnu'n llygaid oddi ar yr ystyriaethau eraill hyn a'r hyn maen nhw'n ei olygu i'r ffordd y byddwn ni'n creu ein bywydau yn y dyfodol o fewn terfynau amgylcheddol diogel."