Arbenigwyr yn cyhoeddi argymhellion ar gyfer adferiad economaidd gwyrdd rhag COVID-19
21 Mai 2020
Gallai pecynnau adferiad gwyrdd rhag COVID-19 hybu twf economaidd a helpu i atal newid yn yr hinsawdd, meddai academydd o Brifysgol Caerdydd.
Mae Dr Jennifer Allan, darlithydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, yn rhan o Rwydwaith Prifysgolion COP26, sydd wedi defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf i greu pecyn gwybodaeth ar gyfer llunwyr polisi sy'n amlinellu llwybr at adferiad economaidd rhag COVID-19 gydag allyriadau net-sero. Ffurfiwyd y grŵp cynyddol o fwy na 30 o brifysgolion yn y DU er mwyn helpu i gyflawni deilliannau o ran y newid yn yr hinsawdd yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Hinsawdd yn Glasgow a thu hwnt.
Mae'r pecyn gwybodaeth yn nodi deg polisi adfer cyllidol sy'n addo dod ag effaith economaidd uchel tymor byr a newid strwythurol tymor hir i sicrhau bod y DU yn cyflawni ei nodau hinsawdd yn 2050.
Ymhlith y polisïau a bwysleisiwyd mae: ynni adnewyddadwy, lleihau allyriadau diwydiannol trwy ddal a storio carbon, a buddsoddi mewn rhyngrwyd band eang i gynyddu darpariaeth, cerbydau trydan ac atebion sy'n seiliedig ar natur. Awgrymodd y pecyn gwybodaeth hefyd i ailenwi Pwyllgor y Cabinet ar Newid Hinsawdd yn Bwyllgor Brys Newid Hinsawdd i adlewyrchu'r angen dybryd am weithredu.
Dywedodd Dr Allan, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd: “Mae'r byd yn edrych i'r DU - fel Llywydd COP 26 - i sbarduno uchelgais er budd yr hinsawdd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Byddai lansio Cynghrair Adferiad Cynaliadwy i feithrin cydweithredu byd-eang yn cadarnhau arweinyddiaeth y DU ac yn dangos camau er budd yr hinsawdd.”
Mae academyddion hefyd yn tynnu sylw at rôl arweiniol y DU yn y cyfnod cyn COP26, yn ogystal â'r cyfle i arwain trwy esiampl gyda phecyn adferiad gwyrdd. Ond fe wnaethant rybuddio y byddai dyluniadau penodol unrhyw bolisi yn pennu ei effeithiolrwydd yn y pen draw.
Dywedodd Dr Allen: “Mae tystiolaeth gref, ynghyd â phrofiad, y gall polisïau hinsawdd gyfrannu at adferiad economaidd. Amser a ddengys a all syniadau newydd barhau i ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Ond os yw'r pandemig wedi dysgu unrhyw beth i ni, hynny yw y gall cymdeithas newid yn gyflym, ac rydym yn dod i arfer yn gyflym ag arferion a ffyrdd o fyw cwbl newydd.
“Bydd angen pecyn ysgogi sylweddol i ailgychwyn yr economi ffurfiol ar ôl COVID-19. O’u defnyddio’n arloesol, gallai’r buddsoddiadau hyn sydd i ddod wneud yn siŵr eu bod yn gosod Cymru a’r DU ar lwybr i ‘normal newydd’ mwy cynaliadwy.”