Llongyfarchiadau i'n Cymrawd Arweinwyr y Dyfodol UKRI diweddaraf
20 Mai 2020
Llongyfarchiadau i Dr Andrew Logsdail o’r Ysgol Cemeg, sydd wedi’i ddewis ar gyfer Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol o fri gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).
Gyda chefnogaeth cronfa ymchwil gwerth £900 miliwn, mae cynllun Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol yn anelu at gynyddu’r cyflenwad cadarn o unigolion dawnus y mae eu hangen er mwyn sicrhau bod ymchwil ac arloesedd y DU yn parhau i fod o safon fyd-eang. Mae’r Cymrodoriaethau hyn yn cynnig yr hyblygrwydd a’r amser sydd eu hangen ar ymchwilwyr o gefndiroedd a llwybrau gyrfaol amrywiol i wneud cynnydd ar rai o faterion mwyaf pwysfawr cymdeithas.
Dywedodd Dr Logsdail: “Rwy’n gyffrous iawn am y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu gan y Gymrodoriaeth hon - mae’n wobr am y syniadau a’r gwaith rydw i wedi’u datblygu, a chydnabyddiaeth am fy mhotensial fel Arweinydd i’r Dyfodol.”
Ychwanegodd: “Nod fy Nghymrodoriaeth yw gwella sut mae modelu cyfrifiadurol yn disgrifio rhyngweithio rhwng moleciwlau a deunyddiau. Bydd y Gymrodoriaeth yn cymhwyso'r dulliau hyn i gemeg newydd ar gyfer tanwydd adnewyddadwy, sy'n gam tuag at fynd i'r afael â heriau ehangach gwneud prosesau cemegol yn lanach ac yn fwy effeithlon o ran ynni. Bydd y Gymrodoriaeth hefyd yn fy ngalluogi i greu, cefnogi a datblygu tîm o ymchwilwyr a aiff i'r afael â nifer o faterion gwyddonol pwysig, gyda'r potensial i gael effaith chwyldroadol ar sut rydym ni'n byw.”
Mae Dr Logsdail bellach yn rhan o garfan o 90 o gymrodyr a ddewiswyd yn rownd ddiweddaraf y cynllun, sy'n cynnwys ymchwilwyr ac arloeswyr o'r byd academaidd, busnes a diwydiant ledled y DU. Dywedodd Kirsty Grainger, Cyfarwyddwr Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI: “Mae Cymrodyr Arweinwyr y Dyfodol yn cynrychioli rhai o’r bobl fwyaf disglair sy’n gweithio yn y wlad. Rydym ni'n cefnogi ymchwilwyr o bob cefndir – o'r celfyddydau i feddygaeth, a'r gwyddorau cymdeithasol i beirianneg – gan eu helpu i ddod yn arweinwyr ymchwil ac arloesedd i’r dyfodol.”