Cyfrifiadura ymchwil uwch mewn cydweithrediad â StackHPC
19 Mai 2020
Bydd cydweithrediad newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a StackHPC yn sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu gwasanaethau i fodloni anghenion amrywiol a newidiol cymuned ymchwil y Brifysgol.
Mae StackHPC yn arbenigo mewn galluoedd delweddu cynhwysfawr a chyflym, a fydd yn gweithio ar y cyd ag Atos ac ARCCA i wella ein platfform Dadansoddi Data Perfformiad Uchel (HPDA), "Sparrow". Yn y pen draw, bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial (AI) a chyfleoedd Data Mawr.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn gweithio gyda thîm technegol StackHPC i adolygu ein portffolio presennol ac ystyried gwella effeithiolrwydd ein systemau presennol, fydd yn cynnwys sefydlu system cynhwysydd-offeryniaeth (wedi'i ategu gan OpenStack). Nid yn unig y bydd y gwelliannau hyn yn galluogi ymchwilwyr i fanteisio ar gyfleoedd i ehangu llif gwaith gwyddorau bywyd, ond hefyd yn cynnig seilwaith craidd i gefnogi'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn AI a Dysgu Peiriannol, wedi'i ariannu gan EPSRC.