Yr Athro Arlene Sierra yn ennill Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme
18 Mai 2020
Mae'r Athro Arlene Sierra wedi ennill Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme 2020.
Mae'r gymrodoriaeth yn cefnogi ei phrosiect "Ecoleg Gerddorfaol", sy'n waith cyfansoddiadol yn ymwneud â'i swydd newydd fel Cyfansoddwr Cyswllt gyda Symffoni Utah.
Elfen bwysig o’r prosiect yw perfformiad cyntaf Bird Symphony gan Arlene Sierra, dan arweiniad y Cyfansoddwr Cerddoriaeth Thierry Fischer. Mae perfformiadau wedi'u trefnu yn Neuadd Abravanel, Salt Lake City ym mis Ebrill 2021.
Bydd Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme yn galluogi'r Athro Sierra i fynd ar gyfnod sabothol o ddwy flynedd o addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, fydd yn rhoi amser iddi ganolbwyntio ar gyfansoddi a phrosiect recordio newydd gyda Bridge Records.