Myfyriwr PhD yn ennill gwobr Tiwtor Graddedig y Flwyddyn
14 Mai 2020
Mae’r myfyriwr PhD Jerry Zhuo wedi ennill gwobr Tiwtor Graddedig y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 2020.
Mae Jerry wedi bod yn fyfyriwr yn yr Ysgol Cerddoriaeth ers 2016 ac mae e bellach yn nhrydedd flwyddyn ei radd PhD mewn Cyfansoddi.
Enwebwyd Jerry am y gwaith mae’n ei wneud wrth helpu cyflwyno myfyrwyr meistr rhyngwladol i’r Ysgol Cerddoriaeth. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno sesiynau ar derminoleg cerddoriaeth Tsieinëeg-Saesneg a theori cerddoriaeth, helpu myfyrwyr rhyngwladol i ymgartrefu yn yr Ysgol, a chynorthwyo cyfathrebu gyda thiwtoriaid ymarferol ar ddechrau’r cwrs. Mae hefyd yn cynnal dosbarthiadau ragarweiniol i feddalwedd Sibelius ar gyfer myfyrwyr.
Yn ogystal â thiwtora ar fodiwlau israddedig, mae Jerry hefyd yn rhoi cymorth i fyfyrwyr rhyngwladol israddedig i ymgartrefu yn yr Ysgol.
Yr haf diwethaf, fe aeth y Côr Siambr a nifer o aelodau’r gyfadran ar daith i Tsiena, a oedd yn cynnwys ymweliad â dinas frodorol Jerry, yn Xiamen. Yn ystod yr amser yma, ymunodd Jerry â’r daith i ymweld â Choleg Celf Prifysgol Xiamen er mwyn cyflwyno darlith am astudio yng Nghaerdydd.
Wrth sôn am ei lwyddiant, dywedodd Jerry: “Rydw i’n teimlo’n hynod ddiolchgar am ennill y wobr hon, a hoffwn rannu’r anrhydedd gyda’r holl aelodau staff a thiwtoriaid graddedig sy’n gweithio yn yr Ysgol Cerddoriaeth. Maent yn parhau i fy ysbrydoli bob dydd gyda’u gofal dros y myfyrwyr a’u hangerdd at gerddoriaeth, a byddaf yn parhau i rannu hyn gyda fy narpar fyfyrwyr o bob gwlad a chefndir.”
Caiff y gwobrau blynyddol, sydd bellach yn eu hunfed flwyddyn ar ddeg, eu trefnu gan Undeb y Myfyrwyr ac maent yn gyfle i fyfyrwyr enwebu aelodau o staff, tiwtoriaid a chydfyfyrwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w hastudiaethau a’u profiad.
Cafwyd y nifer uchaf erioed o enwebiadau eleni, gyda sawl cydweithiwr arall o’r Ysgol Cerddoriaeth hefyd wedi’u henwebu:
Dr Rob Fokkens – Goruchwyliwr Doethurol Rhagorol
Dr Cameron Gardner - Aelod Staff Mwyaf Arloesol
Yr Athro Kenneth Hamilton – Gwobr yr Is-Ganghellor
Dr Monika Hennemann - Aelod Staff Mwyaf Ysbrydoledig
Dr Peter Leech – Aelod Staff Mwyaf Ysbrydoledig
Nick Jones – Aelod Staff Mwyaf Ysbrydoledig