Spot-a-bee Caerdydd yn creu cyffro ledled y DU
13 Mai 2020
Mae gwyddonwyr dinesig ledled y DU yn cael eu hannog i fapio planhigion sy'n addas i wenyn gan ddefnyddio'r ap Spot-a-Bee a ddatblygwyd yng Nghymru a'r Alban.
Mae Spot-a-Bee a ddatblygwyd gan Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd a Phrifysgol Glasgow yn gofyn i ddefnyddwyr gyflwyno lluniau o blanhigion sy'n denu gwenyn yn eu gardd neu ardal leol i helpu i greu map o ddosraniad planhigion ledled y DU.
Dywedodd yr Athro Les Baillie, o brosiect @Pharmabees Caerdydd a ddatblygodd Spot-a-Bee: "Drwy lawrlwytho a defnyddio'r ap Spot-a-Bee, gall pobl helpu ni i ddeall yn well ymddygiad gwenyn mêl a'r planhigion sydd eu hangen arnynt. Mae pobl yn chwilio o ogledd yr Alban i Benzance wrth i ni ddod a wyddoniaeth i ddinasyddion i erddi pobl yn y DU yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae Spot-a-Bee wedi dwyn ffrwyth ers iddo ddechrau yng Nghaerdydd, ac rydym yn falch iawn o weithio gyda Glasgow fel bod cymuned newydd o bobl sy'n dwlu ar natur yn gallu ymgysylltu."
Dywedodd Dr Ria Dunkley, o Ysgol Addysg Prifysgol Glasgow: "Rydym am i bobl sylweddoli ar y planhigion o'u hamgylch sy'n dda i wenyn. Y cwbl sydd angen i chi wneud yw lawrlwytho'r ap, creu cyfrif, ac uwchlwytho llun bob tro rydych yn gweld gwenynen ar neu o amgylch planhigyn yn eich gardd neu ar y stryd. Does dim angen i chi fynd yn bell i ymgysylltu â natur, mae natur ym mhobman o'ch amgylch".
Ychwanegodd Dr Dunkley: "Gyda lwc, bydd lansio'r ap yn yr Alban yn dod â rhywbeth positif i'r cyfnod hwn o gyfyngiadau symud, gan annog pobl i wneud rhywbeth rhyngweithiol."
Bydd yr ap hefyd yn galluogi pobl i gysylltu â phobl eraill sydd â diddordeb mewn gwenyn a natur o bob rhan o'r wlad fel aelod o'r gymuned Spot-A-Bee. Gyda lwc, bydd data'r ap yn ddefnyddiol o ran cadwraeth, gan y bydd yn rhoi gwybodaeth am blanhigion y mae gwenyn yn hoffi, a gallai annog pobl i'w plannu er mwyn creu cynefinoedd sy'n addas i wenyn.
Gall y wybodaeth hefyd fod o gymorth o ran ymchwil @Pharmabees yr Athro Baillie i nodweddion gwrthficrobaidd mêl.
Dywedodd Dr Dunkley eu bod hefyd yn datblygu pecyn dysgu i blant a'u teuluoedd sydd am helpu gwenyn drwy edrych ar ôl eu cartrefi, fydd yn cael ei anfon allan i bobl sy'n cysylltu ar Twitter @ISpotABee, neu ar Instagram neu Facebook.
Gallwch lawrlwytho'r ap o App Store Apple neu Google Play.