Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn arwain y ffordd o ran defnyddio uwchsain ar yr ysgyfaint er mwyn rheoli Covid-19

13 Mai 2020

Lung ultrasound image

Mae adolygiad a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd i lywio’r defnydd arloesol o uwchsain ar yr ysgyfaint er mwyn helpu i reoli cleifion Covid-19.

Yr academyddion hyn fu’r cyntaf i grynhoi tystiolaeth gynnar o ddelweddu ag uwchsain - a ddefnyddir yn fwy cyffredin ynglŷn â beichiogrwydd ac anafiadau cyhyrol - a sut i’w defnyddio i asesu a monitro difrod i’r ysgyfaint.

Dywedodd y prif awdur, Dr Mike Smith, uwch-ddarlithydd o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol: “Wrth i gysgod y pandemig dywyllu arnom, roeddem wrthi’n coladu’r dystiolaeth a’r canllawiau cynnar ar gyfer defnyddio uwchsain ar yr ysgyfaint mewn cleifion Covid-19.

“Roeddem am gymryd y wybodaeth oedd ar wasgar ymhlith y cymunedau ymchwil a chlinigol a’i gwneud yn fwy defnyddiol i glinigwyr - yn union ar ddechrau cromlin y pandemig. Ers hynny, mae uwchsain ar gyfer yr ysgyfaint wedi dod i’r amlwg fel dull hanfodol o fonitro difrod i’r

ysgyfaint oherwydd Covid-19.”

Dywedodd Simon Hayward, ffisiotherapydd arbenigol o Ysbytai Addysgu Blackpool, Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG: “Mae’n offeryn anhygoel oherwydd rydym yn gallu arsylwi’r newidiadau i’r difrod yn yr ysgyfaint - a’i ddefnyddio i lywio sut rydym yn rheoli’r cleifion hyn mewn amser real. Gallai fod modd ei integreiddio i mewn i lwybrau gofal ar gyfer pob claf Covid-19 sydd â difrod i’r ysgyfaint, a monitro eu hadferiad.”

Difrod i’r ysgyfaint yw un o’r problemau mwyaf difrifol i gleifion sydd â symptomau dwys o Covid-19.

Mae penderfyniadau allweddol, fel derbyn claf i’r ysbyty, symud claf o ward i uned dibyniaeth uchel, neu a ddylid eu rhoi ar beiriant anadlu neu’u cymryd oddi ar un, yn cael eu llywio gan sganiau CT, sganiau pelydr-X o’r frest neu drwy wrando ar y frest fel arfer.

Ond er mwyn atal lledaeniad yr haint, ni ellir defnyddio’r dulliau hyn wrth fonitro Covid-19.

Dywedodd y cyd-awdur Dr Sue Innes, o Brifysgol Essex: “Mae gan uwchsain ar yr ysgyfaint rôl bwysig yma, gan nad oes modd defnyddio’r offeryn asesu safonol - y stethosgop - gyda chleifion Covid-19 achos mae’n ffurfio cysylltiad uniongyrchol rhwng croen y claf ac wyneb y clinigwr. Nid oes risg o’r fath gydag uwchsain ar yr ysgyfaint, ac mae’r prosesau rheoli’r haint sydd eu hangen wrth ei defnyddio’n gymharol syml.”

Canllawiau’r ymchwilwyr fu’r cyntaf i goladu sut gellir delweddu meinweoedd yr ysgyfaint ag uwchsain er mwyn mapio dirywiad neu welliant.

Hefyd, amlinellodd yr adolygiad sut gallai fod modd hyfforddi gwahanol weithwyr gofal iechyd i ddefnyddio uwchsain ar yr ysgyfaint a chynyddu ei hargaeledd. Fel arfer, mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan weithlu cymharol fach ond sgilgar o ddwysegwyr (sy’n arbenigo mewn gofalu am gleifion sâl iawn), anaesthetegyddion, ffisiotherapyddion resbiradol ac ymarferwyr a nyrsys gofal critigol lefel uchel.

Mae’r adolygiad yn pennu tri gweithlu i’w huwchsgilio er mwyn cynyddu argaeledd 50 gwaith.

Maent yn cynnwys clinigwyr sydd â phrofiad blaenorol o ddefnyddio uwchsain ar yr ysgyfaint; sonograffwyr sydd eisoes â sgiliau lefel uchel o ddelweddu, ond efallai fod eu llwyth gwaith yn is nag arfer, ynghyd ag ymarferwyr ysgyfaint profiadol nad ydynt yn defnyddio uwchsain ar yr ysgyfaint fel arfer.

“Ar adeg pan mae pwysau digynsail ar y gwasanaethau gofal iechyd, mae cefnogi ac addysgu clinigwyr yn hanfodol ar gyfer datgloi potensial defnyddio uwchsain ar yr ysgyfaint,” dywedodd Dr Smith.

Cafodd yr adolygiad ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Anaesthesia a’i gyd-ysgrifennu gan ddau glinigwr arbenigol o’r GIG - Mr Hayward a Dr Ashley Miller o Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford.

Ers ei gyhoeddi ar 10 Ebrill, mae wedi cael sylw ar draws y byd, gan ei roi ymhlith y 0.2% uchaf o’r 15 miliwn o bapurau ymchwil gwyddonol a olrheiniwyd erioed gan Altmetric, sy’n dadansoddi’r sylw y mae allbynnau ymchwil yn ei gael ar-lein.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.