Athro o Brifysgol Caerdydd yn cael ei ethol yn Gymrawd Academi'r Gwyddorau Meddygol
13 Mai 2020
Mae athro o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi'i ethol yn Gymrawd Academi'r Gwyddorau Meddygol.
Cyhoeddwyd heddiw bod yr Athro Valerie O'Donnell wedi'i henwi ymysg y 50 o wyddonwyr iechyd a bioddefygol mwyaf blaenllaw yn y DU sydd wedi'u hethol i'r Gymrodoriaeth.
Mae'r Cymrodyr newydd wedi'u dewis oherwydd eu cyfraniadau rhagorol at wyddoniaeth biofeddygol gynyddol drwy ddarganfyddiadau ymchwil penigamp a throsi'r gwelliannau hyn yn fuddion i'r cyhoedd a chleifion.
Dywedodd yr Academi nad yw gwyddoniaeth feddygol erioed wedi bod mor werthfawr o ystyried yr argyfwng iechyd byd-eang presennol, gyda llawer o'r Cymrodyr newydd ar flaen y gad o ran yr ymdrechion i daclo'r coronafeirws.
Mae'r Athro O'Donnell yn gyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, canolfan ragoriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n canolbwyntio ar ymchwil heintiau, imiwnedd a llid.
Roedd ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddadansoddi lipidau (brasterau) sy'n rheoleiddio ceulo gwaed a llid mewn clefydau megis clefyd cardiofasgwlaidd a thrombosis.
Dywedodd yr Athro O’Donnell: “Rwy'n falch iawn o gael yr anrhydedd o ddod yn Gymrawd Academi'r Gwyddorau Meddygol, ac rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghydweithwyr wnaeth fy enwebu.
"Ymdrech ar y cyd yw gwyddoniaeth bob tro, ac mae'r wobr hon yn adlewyrchiad o gydweithio hirdymor gan lawer iawn o bobl yr ydw i'n lwcus iawn o fod wedi gweithio gyda nhw. Mae hyn yn cynnwys aelodau sydd wedi hen ennill eu plwyf o fy nhîm i yng Nghaerdydd a llawer o'n cydweithwyr, yn enwedig yn yr Almaen a'r UDA.
Mae'r Athro O'Donnell yn defnyddio dull bioffisegol o'r enw sbectrometreg màs i ddarganfod lipidau newydd sy'n galluogi celloedd imiwnedd a meinwe i gyfathrebu o ran iechyd a chlefydau, ac mae ei gwaith wedi cyfrannu at ddatblygu cyffur newydd yn seiliedig ar lipidau sydd yng nghanol cam 2B profion clinigol yn yr UDA.
"Mae'r wobr hon yn rhoi cyfle gwych i mi hyrwyddo ymchwil lipidau yn y gymuned biofeddygol yn y DU ac yn rhyngwladol", dywedodd.
"Mae lipidau, sydd hefyd yn cael eu galw'n frasterau, yn foleciwlau sy'n hanfodol i iechyd. Ar yr un pryd, mae eu gallu i ysgogi ymatebion imiwnedd a llid yn rhan o sail llawer o glefydau dynol.
"Mae llawer iawn nad ydym yn gwybod eto am lipidau, ac mae dal llawer i'w ddarganfod. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Academi am y wobr hon, a hoffwn ddiolch i Brifysgol Caerdydd am roi amgylchedd gwych i mi i ffynnu fy ngwaith ymchwil, ac i fy nheulu hefyd am eu cefnogaeth barhaus."
Mae'r Athro O'Donnell yn arweinydd yn y DU ar LIPID MAPS, adnodd Biofeddygol a ariennir gan Ymddiriedaeth Wellcome ar gyfer ymchwilwyr lipidau, gydag oddeutu 66,000 o ddefnyddwyr yn fyd-eang. Prosiect ar y cyd yw hwn rhwng Sefydliad Babraham Caergrawnt a Phrifysgol California, San Diego. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Meddygaeth Systemau Poblogaeth MRC, ac yn ddiweddar wedi dod yn Archwilydd Uwch ERC.
Mae gan y Cymrodyr sydd wedi'u hethol eleni arbenigedd yn iechyd byd-eang, feiroleg, iechyd menywod, ystadegau meddygol, polisi iechyd, geneteg canser, meddyginiaeth alergeddau a gofal brys, ynghyd â sawl maes arall.
Dywedodd yr Athro Syr Robert Lechler, Llywydd Academi'r Gwyddorau Meddygol: "Eleni, mae ein cyhoeddiad am y Cymrodyr newydd ar adeg pam mae argyfwng iechyd byd-eang.
"Mae hyn yn adeg bwysig iawn i gydnabod a dathlu'r bobl y tu ôl i ymchwil biofeddygol ac iechyd sy'n torri tir newydd, yn gweithio'n galetach nag erioed i wella gwybodaeth ac i amddiffyn cleifion a'r cyhoedd."
Bydd y Cymrodyr newydd yn cael eu derbyn yn ffurfiol i'r Academi mewn seremoni ar 25 Mehefin.