Remdesivir gael ei Gymeradwyo gan yr FDA i Drin COVID-19
11 Mai 2020
Mae COVID-19, sy’n cael ei achosi gan SARS CoV2 a’i alw’n “coronafeirws” yn aml, wedi dwyn bywydau dros 200,000 o bobl o fewn ychydig o fisoedd. Ar ôl ymdrech ddigynsail a pharhaus gan y diwydiant fferyllol, ar 1 Mai 2020, gwnaeth Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau (FDA) UDA gymeradwyo’r cyffur pro-niwcleotid gwrthfeirysol (ProTide) Remdesivir, a ddatblygwyd gan Gilead Sciences Inc., fel triniaeth ar gyfer COVID19.
Cafodd technoleg cyflwyno ProTide ei harloesi yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd gan yr Athro Chris McGuigan, ac mae tystiolaeth yn dangos ei bod yn gwella gweithgarwch therapiwtig cyffuriau niwcleosid gwrthfeirysol yn sylweddol. Yn wir, Remdesivir yw trydydd cyffur gwrthfeirysol ProTide i gael ei gymeradwyo gan yr FDA, ar ôl sofosbuvir a tenofovir alafenamide.
Yn y lle cyntaf, cafodd Remdesivir ei ddatblygu a’i astudio mewn cleifion er mwyn trin Ebola. Fodd bynnag, yn 2018, dangosodd y feddyginiaeth arbrofol hon weithgarwch ardderchog yn erbyn coronafeirysau, gan gynnwys y rheiny sy’n achosi heintiau MERS a SARS. Felly, pan ddaeth COVID19 i’r amlwg yn Tsieina ar ddiwedd 2019, cafodd Remdesivir ei amlygu’n driniaeth bosibl ar gyfer yr haint feirysol newydd hon. Yn wir, fe ddangosodd cyfres o astudiaethau mewn anifeiliaid a phobl fod Remdesivir yn addawol o ran rheoli COVID19. Yn arbennig, cafodd gallu Remdesivir i gyflymu adferiad cleifion COVID19 ei nodi’n un sylweddol, ac yn y pendraw, arweiniodd hyn at gael ei gymeradwyo’n driniaeth ar gyfer y clefyd. I ddangos ewyllys da, ac oherwydd difrifoldeb y pandemig, mae Gilead Sciences wedi rhoi 1.5 miliwn o ffiolau o’r cyffur i lywodraeth America.
Ar ben hynny, mae cyfres o pro-gyffuriau ProTide gwrthganser a ddarganfuwyd ym Mhrifysgol Caerdydd gan yr un tîm - bellach dan arweiniad Dr Michaela Serpi a Dr Magdalena Slusarczyk - yn mynd drwy dreialon clinigol ar hyn o bryd, mewn cydweithrediad â NuCana plc. Mae ProTides Canser mewn datblygiadau clinigol yn cynnwys Acelarin (Cyfnod III, canser y pancreas a’r llwybr bustlog), NUC-3373 (Cyfnod Ib, canser y colon a’r rhefr metastatig) a NUC-7738 (sydd wedi dangos gweithgarwch gwrth-ganser mewn sawl math o ganser).