Cipolwg ar waith PhD: Pontio'r bwlch rhwng bioleg a pheirianneg
11 Mai 2020
Mae'r myfyriwr PhD, Stephanie Mueller, yn cynnal ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n archwilio ymatebion pysgod i'r addasiadau mewn llif a achosir gan dyrbinau a rhwystrau rhidyllog mewn systemau afonol.
Dim ond 1% o afonydd y Deyrnas Unedig sy'n dal i lifo'n rhydd ar hyn o bryd (Jones et al 2019). Mae strwythurau newydd artiffisial yn cael eu hychwanegu ar systemau afon er mwyn harneisio ynni cynaliadwy a lleihau llifogydd. Mae'r strwythurau hyn yn newid yr ecosystem ac yn dylanwadu ar ddewisiadau cynefin a pherfformiad nofio pysgod, yn aml gan oedi mudo neu ei atal. Gwelir y newidiadau yn nhrefn aflonydd y llif a gall y rhain fod yn fuddiol neu'n niweidiol i bysgod.
Myfyriwr PhD yn yr Ysgol Peirianneg yw Stephanie. Mae ei gwaith ymchwil yn archwilio ymatebion pysgod i newidiadau yn y llif mewn systemau afonol a’i phrif ffocws yw’r addasiadau a achosir gan ddau strwythur anthropogenig, sef rhwystrau rhidyllog a ddefnyddir i reoli llifogydd yn naturiol, a thyrbinau echel fertigol.
Drwy arbrofion yn ffosydd a chyfleusterau pysgod Prifysgol Caerdydd ac yn labordy'r Ganolfan Ymchwil Hydro-amgylcheddol, mae hi'n ymchwilio i effaith newidiadau yn y llif ar berfformiad nofio pysgod a defnydd gofodol eogiaid ifainc. Bydd ei harsylwadau'n darparu gwybodaeth newydd am ymddygiad pysgod ac addasu cynefinoedd mewn perthynas â chynlluniau pŵer a chynlluniau lleihau llifogydd. Bydd hyn yn helpu i feithrin dulliau cynaliadwy, cydnaws â'r amgylchedd o ddatblygu a gosod tyrbinau ac ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol.
Mae gwaith rhyngddisgyblaethol Stephanie yn rhan o ddisgyblaeth a elwir yn Ecohydroleg, sy'n cysylltu hydroleg ag ecoleg dŵr, peirianneg dŵr, bioddaeargemeg a geomorffoleg afonydd. O ganlyniad mae hi'n cydweithio'n agos ag ymchwilwyr o Ysgol y Biowyddorau.
Er mwyn llwyr ddeall ei gwaith ar strwythurau hydrolig mewn llif a'u goblygiadau ecolegol i'r amgylchedd dyfrol, mae Stephanie yn dilyn cwrs rheoli pysgodfeydd yn y Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd ar hyn o bryd, ochr yn ochr â'i PhD.
Ariannir ymchwil Stephanie gan Ganolfan Hyfforddiant Doethurol WISE. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ei gwaith yma neu mae croeso i chi gysylltu â hi yn y cyfeiriad MullerS1@caerdydd.ac.uk.
Jones et al (2019) A comprehensive assessment of stream fragmentation in Great Britain, Sci. Total Environ, 673, 756–76