Cydnabyddiaeth i staff a myfyrwyr ar restr fer gwobrau blynyddol
13 Ebrill 2016

Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr er mwyn dathlu a chydnabod gwaith caled myfyrwyr a staff.
Eleni, mae’r Ysgol yn dathlu llwyddiant dau aelod o staff ac un myfyriwr ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ddydd Iau 28 Ebrill 2016.
Mae Dr Angharad Naylor, darlithydd a Rheolwr Prosiect Cymraeg i Bawb, wedi ei henwebu yng nghategori ‘Pencampwr Addysg Gymraeg’ a Dr Jonathan Morris wedi’i enwebu fel ‘Aelod o Staff Mwyaf Blaengar’. Yn ogystal â hyn mae Steffan Bryn, myfyriwr blwyddyn olaf yn yr Ysgol, ar restr fer y categori ‘Rôl Anrhydedd’.
Dywedodd Dr Jonathan Morris: “Roeddwn wrth fy modd gyda’r enwebiad ac mae cyrraedd y rhestr fer yn fraint fawr! Rwyf wir yn ddiolchgar i bawb sydd wedi pleidleisio ac yn edrych ymlaen at ddathlu yng nghwmni fy nghydweithwyr o Ysgol y Gymraeg ac o ysgolion eraill.”
Ychwanegodd Dr Angharad Naylor: “Mae hi’n anrhydedd mawr cael derbyn y fath sylw ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb a bleidleisiodd. Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous yn enwedig gyda lansiad Cymraeg i Bawb haf diwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at y seremoni!’’
Llongyfarchiadau mawr i’r rheiny sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ac i bawb a gafodd enwebiad. Mae’n braf gweld bod gwaith y staff yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau myfyrwyr y Brifysgol. Pob hwyl ichi yn y seremoni wobrwyo.
Mae rhestr fer llawn Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr 2016 ar gael ar wefan Undeb y Myfyrwyr.