Dr Julie Gwilliam yn ennill gwobr 'Arweinydd ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant' Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr (ESLA).ward
6 Mai 2020
Gwobrau blynyddol yw'r Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr a grëwyd i gydnabod staff a myfyrwyr sy'n cyfrannu at y profiad a geir ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cyhoeddwyd enillwyr 2020 ddydd Iau 30 Ebrill, ac roeddem yn falch iawn o glywed bod Dr Julie Gwilliam o Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi ennill gwobr 'Arweinydd ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant'.
Julie yw Deon Astudiaethau Ôl-raddedig Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ac mae wedi'i chydnabod am ei gwaith yn helpu myfyrwyr ôl-raddedig. Dywedodd y corff dyfarnu:
“Mae Julie wedi mynd i'r afael â bob problem wrth weithio gyda myfyrwyr ôl-raddedig. Mae wedi meddwl am bawb sydd â nodweddion gwarchodedig, yn ogystal â sut gallwn sicrhau dyfodol cynhwysol yn y byd academaidd. Rydym yn aml yn trafod sut mae rhai cymunedau yn teimlo eu bod yn cael eu gwthio i’r ymylon, yn ogystal â ffyrdd o sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel, yn gyfforddus ac yn cael eu gwerthfawrogi ym Mhrifysgol Caerdydd.”
Cyhoeddwyd y gwobrau mewn seremoni wobrwyo rithiol ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda pherson a enwebwyd o Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn cyhoeddi'r enillwyr drwy gyhoeddiadau ar fideos byw.
Dywedodd Julie:
“Roedd yn syrpreis gwych cael fy nghydnabod yn y gwobrau ESLA fel hyn ac rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon. Mae gweithio gyda chymaint o fyfyrwyr ardderchog eleni yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg wedi bod yn fraint. Rwy'n ceisio sicrhau bod cynhwysiant wrth wraidd fy ngweithgareddau fel Deon Ôl-raddedig y coleg ym mhob gweithgaredd, ac i gefnogi'r garfan ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil."
Llongyfarchiadau i Julie a holl enillwyr teilwng gwobrau ESLA eleni.