Gŵyl Llenyddiaeth Plant
12 Ebrill 2016
Bydd academyddion o’r Brifysgol yn ymuno â storïwyr enwog i ddathlu hud o lenyddiaeth ar gyfer pob oedran, yng Ngŵyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd.
Bydd arbenigwyr o Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Brifysgol yn chwarae rhan flaenllaw yn yr Ŵyl, sy'n rhedeg o 16 i 24 Ebrill 2016, gan rannu eu gwaith ymchwil dynamig ac amrywiol ym maes llenyddiaeth plant.
Maen nhw’n ymddangos mewn rhaglen sy'n cynnwys yr awdur plant poblogaidd Jacqueline Wilson, Barry Cunningham - a wnaeth ddarganfod JK Rowling - a llu o awduron a dylunwyr Cymraeg a Saesneg.
Dyma restr o’r digwyddiadau y bydd y Brifysgol yn eu harwain yn ystod yr Ŵyl:
- 18 Ebrill - Dr Catherine Butler (Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth)
Cymryd Llenyddiaeth Plant o Ddifrif - 20 Ebrill – Dr Siwan Rosser (Ysgol y Gymraeg)
Mewn trafodaeth gyda Gareth F. Williams (awdur plant Cymraeg enwog) - 21 Ebrill – Yr Athro Damian Walford Davies (Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth), Dr Siwan Rosser a gwesteion
Dahl Cymru? - Trafodaeth yn seiliedig ar gyhoeddiad ar y gweill gan Wasg Prifysgol Cymru Roald Dahl: Wales of the Unexpected
Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Pennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth: “Mae ymglymiad ein Hysgol gyda’r wŷl sefydledig yn cyffwrdd â chwarëusrwydd radical a difrifoldeb mawr llenyddiaeth i blant (sydd yn llenyddiaeth i oedolion, hefyd). Mae ymgysylltiad Prifysgol Caerdydd gyda'r capasiti o lenyddiaeth i ysgogi dychymyg darllenwyr ifanc i’w weld."
"Gall yr astudiaeth o lenyddiaeth plant roi goleuni ar faterion diwylliannol ac ieithyddol yn y gymdeithas gyfoes ac mae’r ŵyl, sy'n parhau i dyfu bob blwyddyn, yn gyfle i rannu gwaith ymchwil helaeth ac arbenigedd y Brifysgol yn y maes hwn. Hefyd mae'n dathlu llawenydd darllen ac yn rhoi porth i fyd hudol geiriau a dychymyg i bobl ifanc," ychwanega Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg, sydd wedi bod yn rhan o’r ŵyl ers ei sefydlu yn 2013.
Yn ôl yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil Prifysgol Caerdydd ar gyfer Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: "Mae’r Ŵyl Llenyddiaeth Plant yn rhoi llwyfan cyffrous i ni rannu ein hymchwil lenyddol o'r radd flaenaf ac i ennyn diddordeb cynulleidfa eang, o blant i oedolion. Fel cyd-drefnwyr yr Ŵyl rydym yn falch o helpu i ddod â’r rhaglen amrywiol a difyr hwn o ddigwyddiadau i'r gymuned leol.”
Nod holl ddigwyddiadau ŵyl, boed hynny ar gyfer pobl ifanc neu oedolion, yw ysbrydoli, meithrin ac annog cariad gydol oes ar gyfer llyfrau a darllen. Eleni, bydd yr ŵyl hefyd yn dathlu geni un o awduron mwyaf adnabyddus Caerdydd – Roald Dahl - ac mae’n cynnal digwyddiadau ar thema i ddathlu canmlwyddiant ei eni.
Mae’r ŵyl wedi parhau i dyfu dros y blynyddoedd, gan ehangu i redeg ar draws ddau benwythnos eleni.