Graddedigion yn Gwirioni ar Gaerdydd
11 Ebrill 2016
Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n dymuno gweithio ym mhrifddinas Cymru ar ôl graddio, yn cael cyfle i gwrdd â chyflogwyr lleol mewn ffair gyrfaoedd unigryw.
Cynhelir y ffair ar 19 Ebrill 2016 yn Y Plas yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd, a bydd yn cynnwys dros 30 o sefydliadau o Gaerdydd a de Cymru, sydd â swyddi gwag ar gyfer graddedigion pob disgyblaeth.
Esbonia Virginia Bonet Morell, Swyddog Cyswllt Cyflogwyr: "Mae tua 40 y cant o raddedigion Prifysgol Caerdydd yn dod o hyd i swydd yng Nghaerdydd neu yn ne Cymru ar ôl graddio. Am y rheswm hwn, rydym yn lansio ein ffair gyrfaoedd newydd sbon, 'Graddedigion yn Gwirioni ar Gaerdydd', i dynnu sylw at gyfleoedd lleol i fyfyrwyr sy'n dymuno aros ym mhrifddinas Cymru.
"Bydd amrywiaeth eang o gyflogwyr yn y digwyddiad hwn, a phob un ohonynt yn chwilio am fyfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau gradd. O recriwtwyr mawr i fusnesau bach a chanolig lleol a busnesau newydd, bydd amrywiaeth o arddangoswyr yn bresennol, yn hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael ganddynt i raddedigion Prifysgol Caerdydd."
Noddir y ffair gan Admiral, un o'r cyflogwyr preifat mwyaf yng Nghaerdydd. Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae'n bleser gan Admiral noddi Ffair Gyrfaoedd Graddedigion yn Gwirioni ar Gaerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn cyflogi dros 3,000 o bobl yn ein pencadlys yng nghanol dinas Caerdydd, ac mae graddedigion yn rhan hanfodol o ddatblygiad ein busnes, sy'n prysur ehangu.
"Mae Admiral wedi cael ei enwi'n un o'r cwmnïau gorau yn y DU i weithio ar eu cyfer, bob blwyddyn ers 2001, ac mae bellach yn cynnig gwasanaeth i dros 4,000,000 o gwsmeriaid. Mae graddedigion a gafodd eu recriwtio o Brifysgol Caerdydd wedi mwynhau gyrfaoedd boddhaol gydag Admiral, yn aml mewn swyddi sy'n cynnwys cyswllt uniongyrchol â'r tîm rheoli ar y lefel uchaf."
Mae cyflogwyr bob amser yn awyddus i recriwtio graddedigion o Brifysgol Caerdydd. Mae 95.5 y cant o fyfyrwyr Caerdydd yn dod o hyd i waith neu'n ymgymryd ag astudiaethau pellach ar ôl graddio.
Yng Nghaerdydd, mae myfyrwyr yn elwa ar amgylchedd astudio ysgogol, addysgu a arweinir gan ymchwil, yn ogystal â'r cyfle i ryngweithio ag academyddion sy'n flaenllaw yn eu maes.
Mae MotoNovo Finance yn un o'r cwmnïau sy'n arddangos yn y ffair: "Caiff MotoNovo ei arwain gan werthoedd, ac mae ganddo weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol. Mae ei dwf parhaus yn darparu llwyfan lle gall pobl ddatblygu eu gyrfaoedd, ac rydym wedi profi hyn sawl gwaith," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
"Rydym nawr yn chwilio am ragor o bobl i ymuno â'n tîm, pobl sydd ag uchelgais ac ymrwymiad, gan gynnwys graddedigion â'u meddwl ffres, sydd â'r egni a'r brwdfrydedd i ddatblygu'n arweinwyr ein busnes yn y dyfodol. Maes o law, bydd MotoNovo Finance yn symud i adeilad mawreddog newydd yn y Sgwâr Canolog, ac mae wedi dechrau ymgyrch recriwtio fawr a fydd yn gweld y tîm yn tyfu i dros 1000 o bobl. Mae ffair gyrfaoedd Graddedigion yn Gwirioni ar Gaerdydd yn gyfle gwych i MotoNovo Finance arddangos y gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion, a'u helpu i ddatblygu dyfodol cyffrous yng Nghymru, gyda sefydliad amrywiol ac uchelgeisiol arobryn lle gall pob aelod o'r tîm ddatblygu gyrfa hirdymor."
Cynhelir ffair Graddedigion yn Gwirioni ar Gaerdydd rhwng 11.30am a 3.30pm. Nid oes rhaid i chi gadw lle - mae croeso i fyfyrwyr alw heibio ar y diwrnod.