Rhoi diwylliant wrth wraidd y drafodaeth
8 Ebrill 2016
Y Brifysgol yn cefnogi'r drafodaeth etholiadol gyntaf yng Nghymru am yr economi greadigol, cyn etholiadau'r Cynulliad.
Mewn trafodaeth etholiadol o bwys a gefnogwyd gan Brifysgol Caerdydd, mae ymgeiswyr yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn trafod dyfodol diwylliant a'r celfyddydau. Daeth dros 250 o bobl i'r digwyddiad cyhoeddus a gynhaliwyd yn yr Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Trefnwyd y digwyddiad gan Gaerdydd Creadigol, sy'n cael ei redeg gan Brifysgol Caerdydd, a mudiad diwylliant ar lawr gwlad What Next?
Yn ystod y digwyddiad, amlinellodd cynrychiolwyr o bum plaid wleidyddol yng Nghymru eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol y sector diwylliannol a sut gellir datblygu economi greadigol y genedl.
Roedd y panelwyr yn cynnwys Ken Skates (Llafur Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Amelia Womack (Plaid Werdd Cymru) a Denis Campbell (Democratiaid Rhyddfrydol). Y cynhyrchydd celfyddydol a diwylliannol, Laura Drane, oedd cyflwynydd y digwyddiad, a chafodd ei gadeirio gan Menna Richards, cyn-reolwr BBC Cymru Wales.
Trafododd y panel amrywiaeth o faterion gan gynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y celfyddydau, amgueddfeydd a threftadaeth, yn ogystal â'r cyfleoedd a gynigir gan dechnoleg ddigidol.
Dywedodd Sara Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae'r economi greadigol yn rhan bwysig o hunaniaeth Cymru ac mae'n faes sy'n tyfu'n gyflym iawn ar hyn o bryd. Yn 2014, gwelwyd twf o 8.9 y cant yn niwydiannau creadigol y DU - cyfradd sydd bron ddwywaith yn fwy na thwf economi'r DU yn ei chyfanrwydd. Dros y pum mlynedd nesaf, mae'n hanfodol bod Llywodraeth y Cynulliad yn deall ac yn cefnogi'r sector hwn sy'n ffynnu. Dim ond wythnosau sydd tan etholiadau'r Cynulliad, felly rydym wrth ein bodd bod cannoedd o bobl wedi manteisio ar y cyfle pwysig hwn i wrando ar wleidyddion a herio eu blaenoriaethau.”