Ewch i’r prif gynnwys

Phytoponics yn cael cyllid gwerth £500,000

29 Ebrill 2020

Phytoponics tomato growing

Mae cwmni a ddechreuodd fel busnes newydd gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cwblhau rownd gyllid ecwiti gwerth £500,000.

Mae Phytoponics yn arbenigo mewn dylunio, datblygu a chyflenwi systemau Meithrin Dŵr Dwfn ar gyfer cynhyrchu cnydau hydroponig cynaliadwy ar raddfa fawr

Daw'r buddsoddiad gan randdeiliaid presennol gyda chyllid cyfatebol yn cael ei ddarparu gan Fanc Datblygu Cymru fel buddsoddwr sefydliadol cyntaf y cwmni.

Sefydlwyd y cwmni gan raddedigion Adam Dixon (BEng 2016) a Luke Parkin pan oedd Adam yn astudio yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd. Eu nod oedd creu systemau hydroponig wedi'u hoptimeiddio’n fawr i gynhyrchu cnydau gwell na systemau traddodiadol.

Yn Aberystwyth y mae ei bencadlys, ond mae gan Phytoponics gyfleuster ymchwil a datblygu technegol yng Nghanolfan Dechnoleg Stockbridge yn Swydd Efrog, sef y ganolfan arloesedd ymchwil garddwriaethol ac amaethyddiaeth enwog.

Mae gan y cwmni nifer o dai gwydr sydd ag amgylchedd rheoledig, ac mae ganddynt gyfluniadau amrywiol o dechnoleg hydroponeg Meithrin Dŵr Dwfn yn tyfu amrywiaeth o domatos, ciwcymbrau, pupurau bach a mefus yn ogystal â chnydau arbrofol eraill.

Hefyd, mae'r cwmni'n gweithio'n agos gydag Edward Baarda Limited - y tyfwr masnachol cyntaf yn y DU i ddefnyddio technoleg Phytoponics ar raddfa, gan dyfu tomatos drwy ddull hydroponeg heb swbstrad rockwool.

Dywedodd Adam Dixon: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau'r cyllid hwn sy'n rhoi'r arian gweithredu angenrheidiol i ni uwchraddio treialon o'n technoleg gan ein galluogi i arloesi ymhellach wrth i ni symud yn agosach at sylweddoli potensial masnachol yr hyn rydym wedi'i ddatblygu.

“Rwy'n edrych ymlaen at y dyfodol wrth i ni gymryd cam yn agosach at gyflawni ein cenhadaeth i gyflwyno manteision cynaliadwy amaethyddiaeth hydroponig ar raddfa drwy ddefnydd byd-eang o'n datrysiadau tyfu Meithrin Dŵr Dwfn heb swbstrad”.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Andy Jones: “Ymunais â Phytoponics yr haf diwethaf ac rwyf yn falch iawn o'r cynnydd rydym wedi'i wneud dros y naw mis diwethaf. Mae'r canlyniadau a gafwyd yn ein tai gwydr yn Stockbridge wedi arwain at ddiddordeb masnachol sylweddol gan rai chwaraewyr diwydiannol mawr, a chynhyrchodd lefel uchel o hyder gan fuddsoddwyr sydd am ariannu cyfnod nesaf y busnes."

Ychwanegodd David Blake, Gweithredwr Buddsoddiadau Banc Datblygu Cymru: “Fel buddsoddwr sefydliadol cyntaf Phytoponics rydym wrth ein bodd yn cefnogi'r gwaith o uwchraddio a masnacheiddio'r dechnoleg. Mae potensial i'r datrysiad cyffrous, newydd hwn fynd yn fyd-eang, gyda chyfleoedd ledled y DU ac yn rhyngwladol yn codi’n barod a hoffem ni ddymuno pob llwyddiant i'r tîm."

Ychwanegodd Mark Hindmarsh, Cadeirydd Phytoponics: “Mae cael unrhyw lefel o gyllid yng nghyfnod ansicr pandemig COVID-19 yn dipyn o gamp ac felly hoffwn ddiolch yn bersonol i'n buddsoddwyr newydd a'n rhanddeiliaid presennol am eu cefnogaeth a'u cred barhaus ym mhotensial y busnes ar gyfer y dyfodol. Mae'r cwmni wedi dod ymhell ers y prototeipiau cyntaf a ddyluniodd Adam tra ei fod yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd."

Rheolwyd proses fuddsoddi Phytoponics yn fewnol a chafodd gefnogaeth gan gynrychiolydd cyfreithiol y cwmni, Acuity Law a Blake Morgan ar ran Banc Datblygu Cymru.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.