Ymchwil yn amlygu pryderon nyrsys a bydwragedd y DU ynghylch Covid-19
28 Ebrill 2020
Mae arolwg i werthuso effaith pandemig coronafeirws ar weithlu nyrsio a bydwreigiaeth y DU wedi amlygu pryderon iechyd meddwl pwysig.
Canfu arolwg gan y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) fod traean yr ymatebwyr yn dweud eu bod yn dioddef o iselder, gorbryder neu straen difrifol neu hynod ddifrifol.
Dywedodd yr Athro Daniel Kelly, o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Caerdydd, a oedd yn rhan o’r grŵp llywio a wnaeth yr arolwg, fod y canlyniadau’n tynnu sylw at “straen a gofid” – a bod angen rhoi sylw i’r rhain.
Ymatebodd cyfanswm o 2,600 i’r arolwg ICON cyntaf, a wnaed rhwng 2–14 Ebrill ac a ryddhawyd ar 21 Ebrill. Mae’r ymchwilwyr yn bwriadu gwneud dau arolwg arall, yn fuan ar ôl i Covid-19 gyrraedd ei anterth ac wedyn.
Y gobaith yw gallu defnyddio’r canfyddiadau amser real i lywio strategaethau’r gweithlu yn y GIG a gofal cymdeithasol.
Roedd y canfyddiadau’n cynnwys:
- Mae 74% yn teimlo bod eu hiechyd personol mewn perygl yn ystod y pandemig oherwydd eu rôl glinigol
- Mae 92% yn poeni am beryglon i aelodau’r teulu oherwydd eu rôl glinigol
- Dywedodd traean (33%) o’r ymatebwyr eu bod yn dioddef o iselder, gorbryder neu straen difrifol neu hynod ddifrifol
- O’r rhai sy’n cael eu hadleoli o fewn y GIG, dywedodd 62% naill ai bod dim hyfforddiant, neu fod yr hyfforddiant yn annigonol.
- Roedd 52% o’r ymatebwyr wedi gweithio dros oriau eu contract ar eu sifft ddiwethaf – ni chaiff dau draean o’r ymatebwyr hyn eu talu am eu gwaith ychwanegol
- Anghytunodd 25% fod cyfarpar diogelu personol (PPE) ar gael (gyda 44% yn unig yn cytuno ei fod ar gael drwy’r amser)
- Roedd 52% naill ai’n brin o hyder o ran yr hyfforddiant rheoli ac atal haint COVID-19 yr oeddent wedi’i gael neu nid oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant
- Roedd 26% o’r ymatebwyr wedi gorfod hunanynysu, o’r rhain nid oedd gan 37% o’r rhain symptomau personol ac roedd 64% wedi colli pedair sifft neu ragor o ganlyniad i hunanynysu.
Meddai’r Athro Kelly, sy’n Gadeirydd Ymchwil Nyrsio Coleg Brenhinol y Nyrsys: “Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu straen a gofid yn y gweithlu nyrsio gyda bron i draen o’r ymatebwyr yn dweud bod ganddynt symptomau iselder.
“Mae hon yn sefyllfa y mae’n rhaid mynd i’r afael â hi drwy ddarparu profion, cyfarpar diogelu a chefnogaeth ym mhob lleoliad lle mae nyrsys a bydwragedd yn gweithio gyda chryn ewyllys da a dewrder.”
Caiff yr arolygon dilynol eu hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol drwy @RCNResearchSoc.
Mae arolwg ICON yn cael ei arwain gan grŵp llywio Cymdeithas Ymchwil Coleg Brenhinol y Nyrsys ac mae’n ffrwyth cydweithredu rhwng Prifysgol Caerdydd, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Warwick, Prifysgol Plymouth, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Surrey ac Ysbyty St Bartholomew.