Archaeoleg Caerdydd 100
28 Ebrill 2020
Dathlu'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn ystod ein canmlwyddiant gydag archaeoleg gymunedol, rhith-gynadleddau a Gŵyl i gyn-fyfyrwyr
Er mwyn nodi 100 mlynedd o Archaeoleg a Chadwraeth yng Nghaerdydd, mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn cynnal cyfres arloesol o ddigwyddiadau i archwilio gorffennol, presennol a dyfodol y disgyblaethau hyn.
Mae'r flwyddyn o ddigwyddiadau yn arddangos canrif o waith ymchwil ac mae'n adlewyrchu'r arferion presennol ym maes addysgu a'r broses o ymgysylltu â'r cyhoedd, gan ddathlu effaith staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a chymrodyr.
Mae'r gyfres yn nodi sefydlu Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhan o bartneriaeth lewyrchus gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Dechreuodd y cysylltiadau ym mis Awst 1920 pan ymgymerodd Mortimer Wheeler â swydd newydd sef Darlithydd mewn Archaeoleg a Cheidwad Archaeoleg. Cychwynnodd hyn ar gydweithrediad esblygol sydd wedi trawsnewid gwybodaeth o'r gorffennol, wedi creu addysgu, gwaith cloddio ac ymchwil sy'n enwog yn rhyngwladol ac wedi anfon graddedigion o Gaerdydd ledled y byd.
Mae'r Athro Bioarchaeoleg Jacqui Mulville yn rhoi blas ar yr hyn i'w ddisgwyl:
"Er bod y ddau sefydliad hyn bellach yn sefydliadau annibynnol, mae'r cyswllt a ffurfiolwyd yn gyntaf gan Syr Mortimer Wheeler yn rhywbeth i'w ddathlu hyd heddiw. Mae'n fyw o hyd wrth inni gydweithio â chymunedau lleol i archwilio archaeoleg a threftadaeth anhygoel Cymru, gan ddarganfod gwybodaeth newydd am ein gorffennol."
O archaeoleg gymunedol mewn gerddi cefn i drafodaeth ddigidol mewn Cynadleddau bywiog ar Twitter, rydym yn anelu at ennyn diddordeb y cyhoedd mewn disgyblaethau ymarferol sy'n archwilio ein bodolaeth ddynol dros ddegawdau, canrifoedd a milenia."
Gan Agor Wythnos y Canmlwyddiant (6 Mehefin - 12 Mehefin) gydag Arddangosfa Lluniau Cyn-fyfyrwyr, mae dathliadau'r canmlwyddiant yn parhau gyda Cadwraeth yn cymryd Drosodd, Cynhadledd Twitter Archaeoleg Caerdydd gyda rhaglen pdf y gallwch ei lawrlwytho, Arddangosfa Darlunio Canmlwyddiant, yn ogystal â thiwtorialau fideos Archeoleg Arbrofol y gallwch eu gwneud eich hun, yn ogystal â Diwrnod Cymunedol y Canmlwyddiant o dan arweiniad cydweithredfa Archaeoleg Guerrilla a welir fel arfer mewn gwyliau yn y DU dros yr haf.
Drwy gydol y flwyddyn mae cyn-fyfyrwyr sy'n llunio'r disgyblaethau yn parhau i gyflwyno cyfres gyffrous o sgyrsiau cyhoeddus sy'n adlewyrchu tueddiadau cyfredol yn y disgyblaethau. Mae cyn-fyfyrwyr led led y byd hefyd yn cael eu hannog i rannu lluniau o'u hoff gloddfa, arteffact, darganfyddiad, uchafbwynt gradd neu leoliad gan ddefnyddio'r hashnod #CUArch100 drwy Twitter, Facebook neu Instagram @CardiffArchaeology.
Yn Coroni Canmlwyddiant Archaeoleg Caerdydd y mae Dyfodol y Gorffennol, sy'n archwilio gorffennol, presennol a dyfodol archaeoleg mewn diwrnod o seminarau trafodaeth dull Codi Cwestiwn a arweinir gan gyn-fyfyrwyr.
Bydd y Cyn-fyfyrwyr Dr Kathryn Roberts (Pennaeth Archaeoleg, Cadw), yr Athro Carl Heron (Cyfarwyddwr Ymchwil, yr Amgueddfa Brydeinig), yr Athro Robin Skeates (Prifysgol Durham), Ms Siobhan Stevenson (Cyfarwyddwr Cadwraeth Etifeddol) a Duncan Brown (Historic England) yn arwain trafodaethau ar 17 Rhagfyr, dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Cenhadaeth Ddinesig yr Ysgol Dr David Wyatt.
I gael y diweddaraf am Archaeoleg Caerdydd 100 Ewch ar-lein a chymerwch ran trwy ddefnyddio hashnod #CUArch100.