Ewch i’r prif gynnwys

PARC Prifysgol Caerdydd yn gweithgynhyrchu misyrnau wedi’u hargraffu’n 3D ar gyfer staff y GIG yng Nghymru

28 Ebrill 2020

Hrishikesh Pawar
Hrishikesh Pawar (MSc Adv. Mechanical Eng., 2016)

Mae ystod o argraffyddion 3D a ddyluniwyd ar gyfer Sefydliad PARC Prifysgol Caerdydd yn cael eu hail-bwrpasu i weithgynhyrchu misyrnau er mwyn helpu GIG Cymru i fynd i’r afael â COVID-19.

Cafodd y peiriannau argraffu 3D diwydiannol diweddaraf, a ddarparwyd gan HP a chyflenwyr eraill, eu harchebu’n rhan o brosiect £500,000 a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu canolfan RemakerSpace newydd yn Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd.

Pan ddechreuodd pandemig y Coronafeirws, aeth tîm PARC ati’n syth i gynllunio ffyrdd o ail-bwrpasu ac ad-leoli cyfarpar RemakerSpace PARC i ddechrau cynhyrchu misyrnau a helpu GIG Cymru i wynebu COVID-19.

Hrishikesh Pawar
Hrishikesh Pawar (MSc Adv. Mechanical Eng., 2016)

Esboniodd yr Athro Aris, cyd-sefydlydd a Chyfarwyddwr Academaidd PARC, “roeddem wedi bwriadu agor canolfan RemakerSpace yn hwyrach yn y flwyddyn, ond pan darodd y Coronafeirws, penderfynom ni fod angen i ni ymateb yn gyflym a gwneud popeth posibl i helpu GIG Cymru."

Mae’n fendigedig y gallai PARC helpu i ddod ag Ysgolion Busnes a Pheirianneg Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a nifer o’n partneriaid diwydiannol ynghyd i weithio’n un tîm i gefnogi GIG Cymru drwy’r prosiect argraffu misyrnau’n 3D.

Yr Athro Aris Syntetos Distinguished Research Professor, DSV Chair

Un o’r prif bartneriaid diwydiannol yn y prosiect yw DSV, sy’n gwmni logisteg byd-eang, a drefnodd i’r rhan fwyaf o argraffyddion 3D gael eu dosbarthu a’u gweithredu yng nghyfleuster gofal iechyd DSV ym Milton Keynes. Gwnaeth HP hefyd gynnig cefnogaeth enghreifftiol drwy gomisiynu a dosbarthu eu hargraffyddion mewn amser rhyfeddol o fyr.

Gan ddefnyddio ei brofiad o brosiect trosglwyddo gwybodaeth (KTP) 2 flynedd o hyd gydag Ysgol Busnes Caerdydd, fe wnaeth Hrishikesh (‘Rishi’) Pawar (MSc Adv. Peirianneg Fecanyddol, un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd 2016 a pheiriannydd Gweithgynhyrchu Ychwanegol (AM)) arwain gwaith dylunio a gweithredu’r prosiect argraffu misyrnau’n 3D.

Meddai Rishi: “Mae tîm PARC wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu miswrn y bydd y GIG yn ei gymeradwyo, ac y gellir ei argraffu a’i gydosod yn gyflym yma yn y DU.”

Dywedodd Robyn Davies, Pennaeth Arloesedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae hon yn enghraifft wych o arloesedd drwy gydweithio. Mae’n dangos yn berffaith sut gall byrddau iechyd, prifysgolion a phartneriaid diwydiannol weithio ynghyd i gyflwyno atebion arloesol yng Nghymru.”

Mae’r consortiwm yn disgwyl ei lwyth cyntaf o fisyrnau i’r GIG yr wythnos hon, ac yn gweithio drwy’r camau angenrheidiol i gael ardystiad.

Ond, fel mae’r Athro Mike Wilson, Is-lywydd Gweithredol Gwasanaethau Gweithgynhyrchu Logisteg Fyd-eang yn DSV a chyd-sefydlydd PARC yn esbonio, “I ni, dim ond y cam cyntaf yw hwn. Gan ein bod wedi sefydlu canolfan RemakerSpace bellach, rydym yn ystyried cynhyrchion eraill y gallwn eu gweithgynhyrchu i helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Ar ben hynny, yn unol â’r nodau yr ydym wedi’u hamlinellu drwy greu ein canolfan RemakerSpace, rydym am barhau i gefnogi Llywodraeth Cymru a’r GIG, gan ganolbwyntio ar ddatblygu cynhyrchion aml-ddefnydd, cynaliadwy sy’n helpu Cymru i arwain y ffordd o ran pontio i economïau cylchol y dyfodol.”

Ynghylch PARC

Lleolir PARC yn Ysgol Busnes Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n cynnal ymchwil flaengar i weithgynhyrchu ar wasgar, argraffu 3D, cynllunio a rhagfynegi stocrestri, ynghyd â phontio i economi gylchol sy’n fwy cynaliadwy. Mae canolfan PARC yn gweithio gyda nifer o bartneriaid diwydiannol ac mae’n agored i gwmnïau eraill sy’n ymddiddori mewn dysgu rhagor am ein gwaith. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth, dilyn ein sianeli LinkedIn a Twitter neu edrych ar www.cardiff.ac.uk/cy/parc-institute-manufacturing-logistics-inventory

Rhannu’r stori hon

Rydym yn monitro'r sefyllfa'n ofalus er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein staff a myfyrwyr.