Ewch i’r prif gynnwys

Rhyfel, heddwch a Bagloriaeth Cymru

6 Ebrill 2016

Peace

Mae'r Brifysgol yn treialu menter newydd gyffrous sydd am atgyfnerthu astudiaethau dinasyddiaeth fyd-eang mewn ysgolion, sy'n rhan o Fagloriaeth Cymru.

O dan arweiniad yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth mewn partneriaeth â phrosiect Cymru dros Heddwch, mae myfyrwyr chweched dosbarth yn cymryd rhan mewn diwrnod o weithgareddau Cymraeg i'w helpu i ddysgu rhagor am ryfel a heddwch ar gyfer elfen 'dinesydd byd-eang' y cymhwyster.

Bu disgyblion o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn cymryd rhan yn y sesiwn beilot, lle cawsant glywed straeon y gwrthwynebwyr cydwybodol ac eraill yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a lle cawsant gyfle i ail-greu’r tribiwnlysoedd yr oedd unigolion o'r fath yn eu hwynebu, ac archwilio atebion i wrthdaro yn y byd modern.

"Dyma gyfle gwych i addysgu disgyblion ysgol uwchradd am feysydd pwnc sy'n atgyfnerthu eu hastudiaethau eraill, ac i'w hyfforddi gyda sgiliau a all eu helpu i bontio'r bwlch rhwng yr ysgol ac astudio yn y brifysgol," meddai Darlithydd y Coleg Cymraeg, Huw L Williams, o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, sy'n arwain y prosiect.

"Rwy'n credu bod Bagloriaeth Cymru yn gyfle gwych i sefydliadau addysg yng Nghymru weithio gyda'i gilydd mewn ffordd sydd o fudd i bawb, a chysylltu prifysgolion hyd yn oed yn fwy uniongyrchol â'n hysgolion. Gan ddefnyddio'r arbenigedd sydd gennym yn y Brifysgol – ac yn arbennig ym maes athroniaeth – gallwn helpu myfyrwyr gydag elfennau meddwl yn feirniadol ar themâu megis dinasyddiaeth fyd-eang, ac ystyried tybiaethau sylfaenol syniadau themâu megis heddychiaeth."

Dywedodd Jane Harries, Cymru dros Heddwch - y sefydliad sy'n ceisio cael 100,000 o bobl i ddarganfod a rhannu treftadaeth heddwch Cymru, a dysgu ohoni: "Rydym am ysbrydoli cenhedlaeth newydd i weithio ar gyfer dyfodol heddychlon, a byddwn yn defnyddio treftadaeth heddwch Cymru fel sail ar gyfer creu adnoddau addysgu sy'n datblygu sgiliau a hyder dysgwyr.  Mae cydweithio â Phrifysgol Caerdydd a'r Coleg Cymraeg fel hyn yn gyfle i ddatblygu'r gwaith hwn.  Rydym yn gobeithio y bydd gweithgareddau o'r fath yn ysbrydoli pobl ifanc yn y tymor hir i gymryd rhan mewn gwaith hanes llafar i bontio'r cenedlaethau, a phrosiectau cymunedol gyda gwirfoddolwyr rhyngwladol."

Kayley Daniels yw pennaeth Blwyddyn 12 Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Wrth siarad am y fenter, dywedodd: "Roedd yn brofiad cadarnhaol iawn datgelu gwahanol syniadau a phrofiadau i'r disgyblion, gan drafod safbwyntiau gwahanol heddychwyr enwog o Gymru fel Henry Richard a David Davies, a gweld rhywfaint o'r hanes yn y Deml Heddwch (a sefydlwyd gan David Davies), cyn dysgu am y gwahanol ddadleuon y mae pobl yn eu cyflwyno wrth wrthod yr alwad i ryfel.  Roedd hefyd yn braf cyfuno'r gweithgareddau hyn ag ymweliad i Brifysgol Caerdydd, lle gallai ein disgyblion gael profiad uniongyrchol o'r Brifysgol, ar adeg pan maent yn dechrau ystyried eu dewisiadau."

Mae digwyddiad her ddinasyddiaeth fyd-eang Rhyfel a Heddwch yn un o naw o weithgareddau Bagloriaeth Cymru sy'n cael eu treialu yn 2016 fel rhan o Brosiect Partneriaeth Ysgolion y Brifysgol. Y gobaith yw y gall y digwyddiad adeiladu ar ei gynllun peilot llwyddiannus a chynnwys rhagor o ysgolion yng Nghymru.

Mae'r Prosiect Partneriaeth Ysgolion yn cefnogi ymgysylltiad uniongyrchol ymchwilwyr â myfyrwyr, ac yn helpu i ddod â chyd-destunau ymchwil cyfoes ac ysbrydoledig i'r maes dysgu ffurfiol ac anffurfiol. Ariennir y Prosiect Partneriaeth gan Gynghorau Ymchwil y DU (RCUK) fel rhan o'u Menter Partneriaethau Ysgol-Prifysgol.

Rhannu’r stori hon