Y gwahaniaeth rydym yn ei wneud i'w weld yn glir
30 Mawrth 2016
Ffilm yn dangos effaith bellgyrhaeddol hyfforddiant anaesthesia
Hyfforddiant anaesthesia arbenigol Prosiect Phoenix yn Namibia yw'r hyfforddiant cyntaf o'i fath yn y wlad, ac mae'n cael effaith bellgyrhaeddol.
Dim ond llond llaw o anaesthetegyddion arbenigol sydd yn Namibia, felly mae llawfeddygaeth a gofal critigol yn aml yn dibynnu ar swyddogion meddygol sydd heb gael llawer o hyfforddiant anaesthesia.
Gyda chefnogaeth yr Ymddiriedolaeth Addysg ac Iechyd Trofannol (THET), cynhaliwyd cyrsiau dwys yn Windhoek, Rundu ac Oshakati, a bydd cwrs Meistr mewn anaesthesia i ddilyn.
Cynhelir y prosiect ar y cyd â Phrifysgol Namibia. Mae uwch-staff y brifysgol hon yn credu y bydd yn arwain at fanteision ledled de Affrica yn y pendraw.
Mae gwaith tîm Prosiect Phoenix yn Namibia wedi'i gofnodi yn y ffilm hon, sy'n dilyn yr hyfforddiant ac addysg anaesthesia yn Windhoek ac Oshakati, yn ogystal ag ymweliad â Rehoboth i ganfod ffeithiau.