Penodi academydd o Brifysgol Caerdydd ar gyfer rôl flaenllaw yng Ngemau'r Gymanwlad
5 Ebrill 2016
Yr Athro Nicola Phillips wedi'i phenodi'n Chef de Mission
Mae'r Athro Nicola Phillips o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi'i phenodi y Chef de Mission nesaf ar gyfer Gemau'r Gymanwlad Cymru.
Bydd yr Athro Phillips yn gyfrifol am arwain athletwyr, hyfforddwyr, rheolwyr a staff cymorth tîm Cymru yn yr 21ain Gemau a gynhelir ar y Traeth Aur (Gold Coast) yn 2018.
Mae'r Athro Phillips yn arweinydd heb ei hail ac yn arbenigwr rhyngwladol ym maes rheoli anafiadau chwaraeon. Mae hi hefyd yn hen law ar gefnogi athletwyr mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol.
Yn ystod ei gyrfa hynod lwyddiannus, mae hi wedi gweithio gyda thimau Codi Pwysau Cymru a Phrydain, undeb rygbi proffesiynol, y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad. Hi hefyd yw Llywydd y Ffederasiwn Rhyngwladol ar gyfer Therapi Corfforol Chwaraeon.
Dywedodd yr Athro Phillips "I mi, mae hyn yn teimlo fel cam naturiol ac yn benllanw i ddegawdau o fod yn gysylltiedig â Gemau'r Gymanwlad. Rydw i wedi bod yn ymwneud â Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru dros y 30 mlynedd ddiwethaf, ac wedi teithio gyda'r tîm i nifer o Gemau mewn sawl rôl wahanol.
“Rydw i wedi treulio pob eiliad o fy mywyd proffesiynol yn cefnogi athletwyr mewn ryw ffordd neu'i gilydd, felly mae cael fy mhenodi'n brif arweinydd i Dîm Cymru yn anhygoel.
"Mae bod yn rhan o Dîm Cymru yn deimlad gwych - mae helpu athletwyr i wneud eu gorau a gweld athletwyr ifanc yn symud ymlaen o'r Gemau Ieuenctid i'r prif Gemau yn ennyn llawer iawn o falchder ynof."
Cyn dechrau ei swydd, bydd yr Athro Phillips yn mynd gyda Richard Parks (Anrh. 2013) ar ei daith ddiweddaraf. Mae hi'n rhan o'r tîm cymorth sy'n ei helpu gyda'i ymgais i fod y cyntaf erioed i gasglu sampl gwaed a biopsi cyhyr o gopa Mynydd Everest - a bydd yn ei ddringo heb ddefnyddio ocsigen ychwanegol.
Mae'r Athro Phillips yn athro mewn ffisiotherapi, yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer yr MSc mewn Chwaraeon ac Ymarfer Ffisiotherapi, ac yn arweinydd academaidd yng nghlinig Ffisiotherapi Ysbrydoli Perfformiad y Brifysgol.