Meddygon a deintyddion wedi’u henwi’r GORAU yng Nghymru
4 Ebrill 2016
Mae meddygon Cymru wedi'u hanrhydeddu gan Ddeoniaeth Cymru, ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cydnabuwyd yr enwebeion llwyddiannus yng ngwobrau blynyddol BEST/BSAS am eu rhagoriaeth wrth hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol meddygol a deintyddol.
Cafodd Dr Alison Van Buren, meddyg teulu ym Meddygfa Townsgate, Casnewydd; Dr Harsha Reddy, Ymgynghorydd Gofal Critigol yn Ysbyty Maelor, Wrecsam; Dr Farid Ghalli, Meddyg Arbenigol mewn Arenneg yn Ysbyty Athrofaol Cymru; a Dr Madhuri Kodliwadmath, Arbenigwr Cyswllt mewn Obstetreg a Gynaecoleg yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru eu henwi'n hyfforddwyr GORAU y flwyddyn.
Yn ôl yr Athro Derek Gallen, Deon Uwchraddedigion Deoniaeth Cymru: "Mae Deoniaeth Cymru yn arbennig o falch o fod wedi datblygu gwobrau BEST/BSAS i gydnabod y safonau uchel o addysg feddygol a deintyddol yng Nghymru.
"Unwaith eto, mae’r safonau wedi bod yn uchel iawn ac maent yn adlewyrchu amser ac ymrwymiad y meddygon a’r deintyddion sydd ar flaen y gad ym meysydd addysg a hyfforddiant.
"Mae gwobrau BEST/BSAS yn ddathliad teilwng ar gyfer y rhai sydd wedi’u henwebu gan eu hyfforddeion am yr amser a'r ymdrech y maent wedi’u rhoi i’r rôl.
Yn ogystal, cyflwynwyd Gwobr Gydnabyddiaeth y Deon i'r Athro Chris Callander, Is-Ddeon Deoniaeth Cymru, am ei wasanaethau ym maes Addysg Feddygol.
Mae'r gwobrau’n rhan o raglen 'Goruchwylio Llwybr i Ragoriaeth’ sy’n ceisio sicrhau rhagoriaeth mewn hyfforddiant meddygol drwy ddatblygu a chefnogi goruchwylwyr a hyfforddwyr clinigol addysgol o safon ledled Cymru.
Mae gwobrau blynyddol BEST/BSAS bellach yn rhan o Wobrau Athro Clinigol y Flwyddyn BMA/BMJ.
Cafodd pedwar enillydd y wobr Fwrsari Addysg Feddygol gwerth £3,000 hefyd.