Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddau LERA i gymrawd ôl-ddoethurol o Gaerdydd

20 Ebrill 2020

Joey Soehardjojo

Mae ymchwiliwr ôl-ddoethurol o Ysgol Busnes Caerdydd wedi ennill: Labor and Employment Relations Association’s (LERA) 2020 Thomas A. Kochan and Stephen R. Sleigh Best Dissertation Awards Competition.

Cwblhaodd Joey Soehardjojo ei astudiaethau ar gyfer PhD yn Warwick Business School. Rhoddir plac, aelodaeth o LERA am flwyddyn a $1,000 iddo.

Ar ôl clywed y newyddion, meddai Joey: “Mae’n dda bod LERA yn cydnabod pwysigrwydd deall lleisiau rhai yn yr economi wleidyddol y tu hwnt i feysydd ymchwil y brif ffrwd a dulliau arferol. Hoffwn i dderbyn y wobr hon yn enw pawb sydd wedi hwyluso fy nhaith at ddoethuriaeth - rwy’n gobeithio y gallwn i helpu i’w lleisiau gael eu clywed...”

“Rwy’n ddiolchgar i’r goruchwylwyr ymroddedig sydd wedi cynnig arweiniad a chymorth yn ystod fy astudiaethau ar gyfer doethuriaeth ac wedyn. Yn yr un modd, pob clod i’r rhai o sawl diwydiant a chefndir a gymerodd ran yn fy ymchwil megis gweithwyr, rheolwyr, arweinyddion undebau llafur, llunwyr polisïau, pobl fusnes a chynrychiolwyr mudiadau answyddogol a seiadau doethion. Mae sawl un wedi cyfrannu amser, sylwadau a phrofiadau gan fy helpu i hel data helaeth ac ehangu fy nealltwriaeth.”

“Mae cystadleuaeth y traethawd gorau yn fy ngalluogi i feithrin medrau ymchwil newydd ac yn rhoi cyfle hanfodol imi ledaenu fy ymchwil a sbarduno trafodaeth,” ychwanegodd.

Mae traethawd Joey, Knowledge and HRM Practice Transfer in Emerging Economies: The Case of Japanese Joint Ventures in Indonesia, yn ymchwilio i’r dulliau a ddefnyddir i drosglwyddo prif arferion rheoli corfforaethau amlwladol i gyd-destun economïau marchnad sy’n dod i’r amlwg, ac ymateb pobl leol ynghylch rheoli eu sustemau a’u harferion busnes eu hunain.

Mae’i ymchwil yn canolbwyntio ar amcanion a phrosesau corfforaethau o’r fath ar gyfer lledaenu arferion gorau rheoli adnoddau dynol a chysylltiadau diwydiannol i safoni arferion eu canghennau, cadw trefn ar eu ffyrdd o reoli a dylanwadu ar ddatblygiadau polisi yn yr economïau marchnad sy’n dod i’r amlwg yn ne-ddwyrain Asia.

Meddai Shannon Gleeson, Cadeirydd y Best Dissertation Awards Committee: “Ar ran y pwyllgor, hoffwn i longyfarch Joey am y gamp hon. Mae’i ymchwil trawswladol yn arloesol trwy gyfuno mewnwelediadau deunydd rhyngwladol meysydd rheoli adnoddau dynol a chysylltiadau diwydiannol mewn economi sy’n dod i’r amlwg...”

“Mae’r astudiaeth hon yn debygol o gwestiynu ein dealltwriaeth gyfredol o ‘Siapaneiddio’ ac mae’n ehangu ein gwybodaeth am gysylltiadau diwydiannol de a dwyrain Asia.”

Shannon Gleeson Cadeirydd y Best Dissertation Awards Committee

Ar ôl cymrodoriaeth o dan nawdd y Japan Society for the Promotion of Science ac wyth mis o waith maes yn Siapan a de-ddwyrain Asia, ymunodd Joey ag Ysgol Busnes Caerdydd fis Rhagfyr 2019. Mae’n ymchwiliwr ôl-ddoethurol o dan nawdd yr Economic and Social Research Council gyda’r Athro Rick Delbridge.

Byddan nhw’n atgyfnerthu astudiaethau Joey ar gyfer ei ddoethuriaeth a’i gymrodoriaeth wrth lunio mewnwelediadau newydd i effeithiau trefniadau teirannog ymhlith grwpiau o weithwyr asiantaethau lled-wladol, cymdeithasau busnes a chorfforaethau amlwladol.

O ran yr hyn mae Joey wedi’i gyflawni hyd yma a’u bwriad i gynnal ymchwil ar y cyd, meddai’r Athro Delbridge: “Dyma gamp bwysig ac rwyf i wrth fy modd dros Joey...”

“Mae’i draethawd yn astudiaeth ddiddorol a manwl o’r modd y bydd arferion rheoli’n ymledu ac mae ganddo ddata helaeth i’w defnyddio. Rwy’n edrych ymlaen at ei helpu i baratoi’r data ar gyfer eu cyhoeddi a’i helpu i gymryd y cam nesaf yn ei yrfa academaidd.”

Yr Athro Rick Delbridge Professor of Organizational Analysis

Bydd Joey yn derbyn y wobr yn ystod cyfarfod blynyddol 72 LERA ddydd Sul 14eg Mehefin 2020 yn Portland, Oregon. At hynny, mae wedi’i wahodd i gyflwyno crynodeb 25 tudalen o’i draethawd buddugol i’w gyhoeddi ar-lein yn rhan o’r 2020 LERA Proceedings.

Mae LERA yn gorff yn Unol Daleithiau America lle y bydd proffesiynolion a chanddynt ddiddordeb ym mhob rhan o gysylltiadau llafur a chyflogaeth yn rhwydweithio i rannu syniadau a dysgu am ddatblygiadau, materion ac arferion newydd yn y maes.

Rhannu’r stori hon

Fel myfyriwr PhD byddwch yn cael eich integreiddio'n llawn i gymuned ymchwil ac academaidd yr Ysgol.