Plant ysgol yn chwilio am hoff flodau gwenyn
22 Ebrill 2020
Gofynnir i ddisgyblion ysgol helpu gwyddonwyr i nodi cymysgedd o 'hadau uwch' o flodau gwyllt sy'n cefnogi gwenyn mêl a pheillwyr hanfodol eraill.
Mae tua 200 o bacedi o hadau blodau gwyllt ar gael am ddim i blant ysgolion cynradd i'w plannu yn Cathays, Caerdydd, yn rhan o brosiect Ail-wylltio Caerdydd i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr Cymru ac ychwanegu at wyrddni'r ddinas.
Mae prosiect @Pharmabees Prifysgol Caerdydd wedi dod ynghyd ag archfarchnad lleol yn Cathays i roi'r cymysgedd o hadau i rieni wrth iddynt siopa yn ystod y cyfyngiadau symud.
Dan arweiniad yr Athro Les Baillie, o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, mae @Pharmabees yn lansio'r prosiect ar Ddiwrnod y Ddaear (22 Ebrill) – ochr yn ochr â gwybodaeth ar-lein er mwyn helpu plant i ddysgu am flodau gwyllt, bioamrywiaeth, a phwysigrwydd peillwyr megis gwenyn mêl a sut maent yn helpu gwyddonwyr i ddod o hyd i wrthfiotigau newydd.
"Rydym yn dibynnu ar ddisgyblion i wneud y gwaith maes go iawn ar gyfer @Pharmabees yn ystod y cyfyngiadau symud," dywedodd yr Athro Baillie. "Y gwyddonwyr ifanc hyn fydd ein llygaid a'n clustiau, gan gofnodi sut mae'r blodau'n tyfu ac arolygu'r pryfed y maent yn eu denu.
"Rydym yn gofyn i rieni gasglu paced o hadau am ddim o'r Co-op ar Heol Crwys y tro nesaf y byddant yn siopa yno, a gofynnwn i'r plant blannu'r hadau naill ai mewn pridd yn eu gerddi neu mewn pot blodyn.
“Wrth i'r blodau dyfu, gofynnir i ddisgyblion gadw cofnod o ba blodau sy'n tyfu orau a pha rai sy'n denu'r mwyaf o ymweliadau gan bryfed drwy ein harolwg BioBlits. Gellir lawrlwytho canllawiau ar sut i nodi planhigion a phryfed unigol, yn ogystal â'r arolwg, o'n gwefan. Hoffem i unrhyw un sy'n cymryd rhan yn Cathays i rannu lluniau a fideos â'n cyfrif Twitter @pharmabees.
Bydd y wybodaeth y bydd ein gwyddonwyr ifanc yn ei chasglu yn cael ei defnyddio i helpu'r brifysgol i ddatblygu cymysgedd o 'hadau uwch' o flodau gwyllt – a fydd yn cynnwys y blodau gorau ar gyfer gwenyn mêl – ac rydym yn gobeithio y bydd yn cael ei defnyddio i gefnogi peillwyr ledled Cymru."
Dywedodd cynghorydd Cathays, Sarah Merry: “Cathays yw ardal mwyaf poblog Cymru siŵr o fod, felly rydym yn awyddus i gefnogi @Pharmabees. Bydd yn gyffrous iawn i'r plant gael cymryd rhan gartref os allant gyfuno tyfu planhigion â bod yn rhan o brosiect gwyddoniaeth a helpu'r boblogaeth wenyn."
Mae prosiect @Pharmabees sydd wedi ennill gwobrau yn cyfuno ymchwil arloesol â'r weithred o ymgysylltu â'r cyhoedd drwy ystyried sut y gallai rhai o blanhigion naturiol Cymru arwain at ddatblygu cyffuriau i drin cyflyrau meddygol difrifol sydd bellach ag ymwrthedd i wrthfiotigau traddodiadol - a elwir yn 'arch-fygiau'.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, a'r Llywydd: “Mae’n bleser gennym gefnogi'r prosiect 'hadau uwch' drwy ein bwrdd Cenhadaeth Ddinesig ar Ddiwrnod y Ddaear, gan weithio gyda'n cymunedau lleol. Bydd gan y gweithgareddau rôl ddefnyddiol wrth helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau STEM, o gofnodi gwenyn yn gywir pan fyddant yn eu gweld, i weld y gwahaniaethu rhwng gwahanol blanhigion a phryfed."
Mae rhagor o wybodaeth am adnoddau addysgu ar gyfer @Pharmabees ar gael yn: https://www.cardiff.ac.uk/cy/pharmabees
Mae'r adnoddau a ddatblygwyd ar gyfer prosiect 'hadau uwch' Cathays ar gael i rieni a phlant yn https://sciencesessions.wixsite.com/sciencesessions