Rhedeg yn ôl-troed y goreuon
26 Mawrth 2016
Mae staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr wedi helpu i sicrhau llwyddiant ysgubol Pencampwriaeth Athletau'r Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd.
Cynhaliwyd y digwyddiad a noddwyd gan y Brifysgol ddydd Sadwrn, wrth i filoedd redeg yn ôl-troed 200 o athletwyr o'r radd flaenaf, gan gynnwys Mo Farah sydd wedi ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd.
Rhedodd dros 200 o bobl o bob cwr o'r Brifysgol fel rhan o Dîm Caerdydd, wrth i bobl eraill wirfoddoli i gyflawni amrywiaeth o dasgau hanfodol i gefnogi'r ras a gafodd ei darlledu ar y teledu.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Llongyfarchiadau i holl redwyr a gwirfoddolwyr y Brifysgol, am eu gwaith pwysig wrth helpu i sicrhau llwyddiant Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd."
Un a oedd yn rhedeg ar gyfer Tîm Caerdydd oedd Jon Kendall, o'r adran Gwasanaethau TG, a ddywedodd: "Mae wedi bod yn wych ar gyfer y Brifysgol gyfan, ac mae'n beth da ein bod bellach yn noddi Hanner Marathon Caerdydd hefyd.
"Rwy'n rhedeg i brofi rhywbeth i mi fy hun. Roeddwn yn dioddef o ganser y thyroid tua diwedd 2014, felly rwy'n codi arian ar gyfer Ysbyty Felindre a grŵp cefnogi thyroid.
"Rwy'n gobeithio gallu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd hefyd, a rhedeg ar gyfer y Brifysgol a'r achosion y mae'n codi arian ar eu cyfer [ymchwil canser ac ymchwil dementia ac iechyd meddwl]."
Rhedwr arall ar Dîm Caerdydd oedd Dr Anna Hurley, Rheolwr yr Ysgol Meddygaeth, nad oedd erioed wedi cymryd rhan mewn ras bellter o'r blaen.
"Mae wedi bod yn braf teimlo'n rhan o bopeth - roedd ymdeimlad o gymuned go iawn," meddai.
"Rwy'n credu fod yr holl beth yn wych, yn enwedig nawr ein bod yn noddi Hanner Marathon Caerdydd hefyd. Mae'n helpu i godi proffil y Brifysgol.
"Mae gweithio i'r Brifysgol yn rhoi ymdeimlad o falchder - dylai Cymru gyfan fod yn falch o'r Brifysgol."
Roedd rhedwyr y Brifysgol yn codi arian ar gyfer tri o achosion Prifysgol Caerdydd – ysgoloriaethau a bwrsariaethau, ymchwil canser ac ymchwil dementia - yn ogystal ag achosion eraill sy'n agos at eu calon. Roedd llawer o redwyr wedi cofrestru ar ein tudalennau JustGiving.
Roedd y ffaith bod y Brifysgol yn brif bartner yn golygu ei bod i'w gweld yn amlwg yn y digwyddiad, a gafodd ei ddarlledu ledled y byd ac yn fyw ar y BBC.
Roedd torfeydd mawr i'w gweld ar hyd y llwybr, gan greu awyrgylch carnifal ar gyfer y miloedd o gystadleuwyr.
Roedd rhai o adeiladau hanesyddol y Brifysgol ym Mharc Cathays yn gefndir ysblennydd i linell orffen y ras.
Roedd y Brifysgol yn rhan fawr o'r gwaith o baratoi ar gyfer y ras, gan weithio gyda'r trefnwyr i gynnal sesiwn gymunedol gyda disgyblion ysgol lleol a Mo Farah ddydd Gwener.
Roedd gweithgareddau eraill yn cynnwys prosiect ymchwil yn canolbwyntio ar y ras, sy'n ceisio canfod beth sy'n ysgogi pobl i redeg.
Mae'r tîm ymchwil o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, yn gobeithio y bydd eu canfyddiadau o'r digwyddiad yn helpu trefnwyr rasys torfol i ddenu amrywiaeth ehangach o redwyr yn y dyfodol, a gwella iechyd y genedl yn sgîl hynny.
Mae dau academydd, yr Athro Ian Hall a'r Athro Steve Barker o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd y Brifysgol, wedi rhedeg pob cam o'r 13.1 milltir fel rhan o Dîm Caerdydd ar ddec hofrennydd eu llong ymchwil ger arfordir De Affrica.
Maent wedi bod yn drilio'n ddwfn i lawr Cefnfor India, i chwilio am dystiolaeth i egluro rôl un o gerhyntau cefnfor mwyaf y byd yn y newid yn yr hinsawdd yn ystod y 5 miliwn o flynyddoedd diwethaf, a sut mae'n effeithio ar y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw.