Disgyblion yn cwrdd â Mo Farah
25 Mawrth 2016
Mae disgyblion o dair ysgol yn ne Cymru wedi cwrdd â Mo Farah, sydd wedi ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd, fel rhan o raglen ehangu cyfranogiad y Brifysgol.
Cynhaliwyd y digwyddiad Mo yn Ysbrydoli – a drefnwyd ar y cyd â Run4Wales - yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd ddiwrnod cyn Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF yng Nghaerdydd, a noddwyd gan y Brifysgol.
Bu pobl ifanc o Ysgol Uwchradd Cantonian yng Nghaerdydd, Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf ac Ysgol Gyfun Rhydywaun ym Mhenywaun, Rhondda Cynon Taf, yn siarad â Mo ac yn ei holi am ei yrfa athletau hynod lwyddiannus.
Mae rhaglen Ehangu Cyfranogiad Camu i Fyny yn cefnogi pobl ifanc a gaiff eu tangynrychioli ym maes addysg uwch yn draddodiadol, drwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau i godi dyheadau.
Dywedodd Vicki Roylance, Uwch-swyddog Ehangu Cyfranogiad y Brifysgol: "Mae'r gweithgareddau hyn yn helpu i chwalu'r rhwystrau a'r myth mai dim ond yr ychydig rai breintiedig sy'n cael eu derbyn i'r prifysgolion gorau, fel Caerdydd.
"Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda dros 100 o ysgolion a cholegau mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru, i godi dyheadau ac ehangu ymwybyddiaeth am Addysg Uwch.
"Mae'r rhaglen Camu i Fyny yn darparu cefnogaeth bwrpasol i'r myfyrwyr hyn drwy gynnig dosbarthiadau meistr, gan gynnwys datblygiad personol ac adolygu, ysgol haf breswyl, cyngor wedi'i deilwra a chefnogaeth i gyflwyno cais i'r brifysgol, e-fentora a sesiynau blasu ar gyfer pynciau academaidd."