Gwyddonwyr yn rhedeg Hanner Marathon y Byd ar y môr
24 Mawrth 2016
Gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn rhedeg Hanner Marathon y Byd ar fwrdd llong yng Nghefnfor India
Wrth i filoedd o redwyr ac athletwyr o fri heidio i brifddinas Cymru y penwythnos hwn ar gyfer Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd, bydd dau wyddonydd o Brifysgol Caerdydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad nodedig hwn dros 8,000 o filltiroedd i ffwrdd mewn amgylchedd gwahanol iawn.
Bydd yr Athro Ian Hall a'r Athro Steve Barker o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd y Brifysgol, yn rhedeg pob cam o'r 13.1 milltir fel rhan o Dîm Caerdydd ar ddec hofrennydd eu llong ymchwil ger arfordir De Affrica.
Wrth i'r rhedwyr ddechrau'r hanner marathon brynhawn Sadwrn (26 Mawrth) yng nghysgod Castell Caerdydd, bydd Steve ac Ian hefyd yn dechrau eu tasg o redeg o amgylch dec hofrennydd y llong 328 gwaith ac ymdopi â'r amodau garw y gallant eu hwynebu yng Nghefnfor India.
Mae'r ddau wyddonydd wedi bod yn codi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Goedgedacht. Mae'r elusen hon yn Ne Affrica yn trawsnewid bywydau plant a gaiff eu magu yng nghymunedau gwledig Affrica drwy gynnig ffordd iddynt allan o dlodi.
Caiff yr arian a godir gan Steve ac Ian ei ddefnyddio i osod paneli solar yn un o'r cartrefi diogel a gynhelir gan yr elusen ar gyfer plant sy'n dianc rhag trais.
Mae'r gwyddonwyr wedi bod ar daith ymchwil ar long JOIDES Resolution ers deufis bellach, yn rhan o Raglen Ryngwladol Darganfod y Cefnforoedd (IODP).
Mae'r tîm wedi bod yn drilio'n ddwfn i lawr y cefnfor ger arfordir De Affrica. Maent yn chwilio am dystiolaeth i egluro rôl un o gerhyntau cefnfor mwyaf y byd - Cerrynt Agulhas – yn y newid yn yr hinsawdd yn ystod y 5 miliwn o flynyddoedd diwethaf, a sut mae'n effeithio ar y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw.
Ar yr adegau pan nad ydynt wedi bod yn casglu creiddiau gwaddodion o lawr y cefnfor, mae Steve ac Ian wedi mwynhau'r golygfeydd godidog ger arfordir De Affrica wrth wneud eu hymarferion ar fwrdd y llong, neu ddefnyddio peiriant rhedeg y llong pan nad yw'r amodau hwylio yn ffafriol.
I Ian, sy'n rhedwr profiadol ac sydd wedi cymryd rhan mewn sawl marathon a hanner marathon yn y gorffennol, mae rhedeg ar fwrdd y llong wedi bod yn her newydd a chyffrous iddo. Mae gan Steve lai o brofiad o redeg mewn marathon, felly mae wedi gorfod addasu i'r amodau a'r pellter yn weddol gyflym.
Cyn y ras, dywedodd Ian Hall: “Rwyf wir yn teimlo'n gyffrous ynghylch rhedeg. Bydd yn her unigryw i'r ddau ohonon ni. Wrth gwrs, bydd llawer yn dibynnu ar y tywydd – os bydd y llong yn rholio fel y mae wedi'i wneud wrth i ni baratoi, gall ymdopi â chynifer o gorneli ar y dec hofrennydd fod yn dalcen caled. Rydych yn sicr yn teimlo y gallech redeg oddi ar ymyl y llong os nad ydych yn canolbwyntio'n llawn, ac nid yw'r dec dur yr wyneb orau ar gyfer rhedeg.
“Rydym wedi cael deufis prysur dros ben ar fwrdd JOIDES Resolution, yn gweithio oriau hir ar brosiect sy'n mynd rhagddo ddydd a nos. Er ein bod yn gyfforddus, mae'n anochel ein bod yn hynod flinedig ac mae bwyd ffres wedi bod yn eithaf prin. Nid y ffordd orau o baratoi ar gyfer ras!
“Mae Ymddiriedolaeth Goedgedacht yn gwneud gwaith mor anhygoel gyda phlant sy'n agored i niwed yng nghefn gwlad De Affrica. Bydd eu hymrwymiad penodol i leihau tlodi a hyrwyddo datblygiad cynaliadwy yn gymhelliant enfawr i ni wrth i ni redeg o amgylch y dec hofrennydd 328 gwaith.”
Dywedodd Steve Barker: “Y tywydd a symudiad y llong fydd y ddwy brif her yn ystod y ras, ond rydw i'n edrych ymlaen yn fawr ato. Mae ymarfer yn yr awyr agored wedi bod yn her yn y lledredau isel gan fod y gwres a'r lleithder yn creu amodau hynod anghyfforddus. Ar ben hynny, mae'r llong yn tueddu i symud wrth i chi redeg o amgylch y corneli, felly rhaid bod yn ofalus rhag ofn i chi redeg oddi ar ochr y llong.
“Er mod i wedi ymarfer ar y peiriant rhedeg yn bennaf, lle mae'n haws dal gafael iddo os bydd y llong yn symud, rydw i wedi rhoi cynnig ar redeg o amgylch y dec hofrennydd rai cannoedd o weithiau, ac mae wedi bod yn iawn - ac mae'r golygfeydd anhygoel yn gwneud yr holl beth yn werth chweil.
“Ar wahân i'r ymarferion rhedeg, rydw i wedi fy synnu gan ba mor gyfforddus yw JOIDES Resolution. Rydym yn casglu deunydd eithaf anhygoel - felly mae'n mynd i fod yn daith hynod foddhaus.”
Cynhelir Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF, a noddir gan Brifysgol Caerdydd, ddydd Sadwrn, 26 Mawrth. Bydd miloedd yn rhedeg yn ôl troed 200 o athletwyr o'r radd flaenaf, gan gynnwys Mo Farah sydd wedi ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd.
Bydd dros 200 o staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhedeg fel rhan o Dîm Caerdydd, a bydd hyd at 300 o staff a myfyrwyr yn gwirfoddoli mewn rolau hollbwysig i gefnogi'r digwyddiad.