Ymchwilwyr yn lansio prosiect i ymchwilio i sut mae COVID-19 yn effeithio ar feichiogrwydd
17 Ebrill 2020
Mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â Choleg Imperial Llundain i sefydlu cofrestrfa fyd-eang o fenywod beichiog y mae COVID-19 yn effeithio arnynt.
Bydd y Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR) yn cynnal cronfa ddata ar-lein PAN-COVID o fenywod sydd ag achosion wedi’u tybio a’u cadarnhau o’r Coronafeirws, o feichiogrwydd cynnar, i ôl-enedigaeth.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod ychydig o dystiolaeth yn awgrymu nad oes cymhlethdodau cysylltiedig â’r Coronafeirws yn ystod beichiogrwydd, ond cynghorir bod menywod yn cyfyngu ar eu cysylltiad cymdeithasol.
Gyda lwc, bydd yr ymchwil hon yn helpu gwyddonwyr i gael dealltwriaeth well o sut mae’r Coronafeirws yn effeithio ar feichiogrwydd cynnar, twf y ffetws, babanod cynamserol a throsglwyddo’r haint i’r baban.
Mae’r astudiaeth 18 mis yn rhan o 21 o brosiectau newydd ynghylch y Coronafeirws newydd a gyhoeddwyd heddiw gan lywodraeth y DU.
Julia Townson, y cymrawd ymchwil sy’n arwain tîm CTR yng Nghaerdydd, sydd wrth y llyw o ran datblygu’r gronfa ddata ar-lein, y bydd gweithwyr gofal iechyd o’r DU a ledled y byd yn gallu mewnbynnu data iddi’n uniongyrchol.
“Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn cynnig llawer iawn o wybodaeth i helpu i lywio gwaith atal a thrin y Coronafeirws ar gyfer menywod beichiog yn ystod y pandemig hwn,” meddai.
“Ar hyn o bryd, ychydig iawn rydyn ni’n ei wybod am sut mae COVID-19 yn effeithio ar feichiogrwydd a babanod ar ôl genedigaeth, felly mae hwn yn faes o bwys mawr i lawer o bobl, yn amlwg.
“Gobeithiwn y bydd yr ymchwil hon yn cynyddu dealltwriaeth o sut mae’n effeithio ar bob agwedd ar feichiogrwydd, ar raddfa fyd-eang.”
Bydd y CTR yn cefnogi’r astudiaeth, gan gynnig arbenigedd academaidd mewn datblygu gwefannau a chronfeydd data, rheoli data a’i astudio, a dadansoddiadau ystadegol.
Mae'r astudiaeth, a arweiniwyd gan yr Athro Christoph Lees a Dr Ed Mullins o Goleg Imperial Llundain, yn rhan o ymateb ymchwil cyflym gwerth £24.6 miliwn a ariennir gan UKRI a’r Adran Gofal Iechyd a Chymdeithasol, drwy’r Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol.
Dywedodd yr Athro Syr Mark Walport, Prif Weithredwr UKRI: “Mae ymateb y gymuned ymchwil i argyfwng COVID-19 wedi bod yn rhagorol. Mae cyfradd y gwaith yn deyrnged i sail ymchwil o safon fyd-eang y DU, a’i hymrwymiad i’r frwydr yn erbyn y clefyd hwn.”