Prifysgol Caerdydd yn lansio llwyfan i helpu rheoli poen cefn yn y gweithle ac wrth weithio gartref
14 Ebrill 2020
Llwyfan digidol ar-lein yw BACK-on-LINETM sydd wedi'i gynllunio i helpu pobl i reoli poen gwaelod y cefn yn y gweithle ac wrth weithio gartref.
Mae'r llwyfan wedi'i ddatblygu gan dîm o academyddion Prifysgol Caerdydd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yr Ysgol Peirianneg a'r Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data mewn cydweithrediad â ffisiotherapyddion a rheolwyr iechyd galwedigaethol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan. Mae'r prosiect yn cael cefnogaeth bellach gan Ganolfan Biomecaneg a Biobeirianneg Arthritis Research UK Prifysgol Caerdydd.
Caiff y prosiect arloesol ei ariannu gan Gronfa Her Iechyd Uned Iechyd a Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae BACK-on-LINETM yn cael ei lansio ledled y DU er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad cynnar unigol i reoli poen gwaelod y cefn yn well yn y gweithle neu wrth weithio gartref.
Dywedodd Liba Sheeran, Darllenydd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a Ffisiotherapydd Ymgynghorol sy'n arwain y prosiect, 'Bu'n daith hir i ddod i'r fan yma ond mae'r cydymdrech gan yr holl dîm o'r diwedd wedi talu ffordd! Rydym ni wedi llwyddo i ddatblygu llwyfan gwych i bobl ddeall eu problem cefn yn well a dysgu sut i'w reoli'n i wella eu poen yn y tymor byr yn ogystal â rhoi 'ffordd allan' iddyn nhw at ddyfodol gwell a mwy gweithredol yn eu gwaith yn ogystal â'u bywyd preifat'.
Os ydych yn cael problemau poen cefn yn y gwaith neu wrth weithio gartref, gallwch fanteisio ar ein prototeip BACK-on-LINETM cyntaf ar-lein am ddim yn: www.backonline.org.uk
Yma gallwch:
1. Gwblhau hunanasesiad
2. Cael adborth ar eich poen cefn
3. Cael mynediad am ddim at arweiniad unigol ar sut i reoli poen cefn, technegau ac ymarferion
4. Rhoi adborth i ni ar ôl 4 wythnos o ddefnyddio BACK-on-LINETM
I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth fanwl am BACK-on-LINETM gan ein cydweithwyr Onclick yma.