Ewch i’r prif gynnwys

Mae cyrsiau byr MDA a DPP yn cael eu cynnal ar-lein

31 Mawrth 2020

Short Courses
MDA and DPP short courses move online

Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd y drydedd rownd o gyrsiau byr, yr un olaf, ar gyfer y Radd Meistr mewn Gweinyddu Dylunio (MDA) a’r Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol (Rhan 3) (DPP) gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ym Mhrifysgol Caerdydd. Yr wythnos hon, cynhaliwyd tiwtorialau unigol.

Er gwaetha’r newid munud olaf o fod ar y safle i ar-lein, cafodd y cyrsiau eu cyflwyno bron yn union fel y cynlluniwyd, ac i bawb. Roeddynt yn cynnwys seminarau gyda’r siaradwyr a’r myfyrwyr yn rhyngweithio’n llawn, ynghyd â gweithdai rhithwir gyda grwpiau.

Diolch yn fawr i’r myfyrwyr am eu brwdfrydedd cyson, ac i’n holl siaradwyr gwadd am eu cyflwyniadau ardderchog:

Rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y cyfranogwyr: “Mae’r holl sesiynau wedi bod yn ardderchog, diolch! O safbwynt ‘aros gartref’, maent wedi gweithio’n dda iawn ac wedi bod yn hawdd ymgysylltu â nhw.” (Myfyriwr)

“Roedd yn wych cymryd rhan - diolch. Rwy’n gobeithio bod y ddarlith yn ddefnyddiol i fyfyrwyr ac rwy’n gwybod y byddant wedi gwerthfawrogi eich ymdrechion i’w chynnal. Da iawn!” (Siaradwr)

“Mae’r profiad cadarnhaol o symud cyrsiau’r MDA a’r DPA ar-lein wedi rhoi llawer o syniadau i ni am ddatblygu dulliau newydd o gyflwyno’r ddwy raglen hon y flwyddyn nesaf.” (Yr Athro Sarah Lupton)

Cafodd y cyrsiau eu cynnal gan Arweinydd y Rhaglen, yr Athro Sarah Lupton, ar y cyd ag ymgynghorydd arbenigol allanol yr Ysgol, Manos Stellakis. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y rhaglenni uchod, gan gynnwys gwneud cais ar gyfer 2020/21, cysylltwch â’r Athro Sarah Lupton drwy ebostio Lupton@caerdydd.ac.uk

The positive experience of moving the MDA and DPA courses online has given us lots of ideas for developing new modes of delivery for both of these programmes next year.

Yr Athro Sarah Lupton Personal Chair

The courses were run by Programme Leader, Professor Sarah Lupton, together with the School’s external expert consultant, Manos Stellakis. For all enquiries on the programmes, including applying for 2020/21, please contact Professor Sarah Lupton, at Lupton@cardiff.ac.uk

Rhannu’r stori hon