Efelychydd uwchsain yn helpu i fynd i’r afael â’r pandemig
14 Ebrill 2020
Mae technoleg hyfforddi uwchsain, a ddatblygwyd yn wreiddiol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cael ei defnyddio yn Ysbyty ExCel Nightingale y GIG yn Llundain, er mwyn mynd i’r afael â COVID-19.
Mae Intelligent Ultrasound Group - cwmni meddalwedd deallusrwydd artiffisial (AI) ac efelychu defnyddio uwchsain - wedi ailbwrpasu ei efelychydd hyfforddi uwchsain BodyWorks Eve, er mwyn helpu clinigwyr i sganio’r ysgyfaint am COVID-19.
Meddai Stuart Gall, Prif Swyddog Gweithredol Intelligent Ultrasound Group - un o gwmnïau deilliannol Prifysgol Caerdydd: “O ran canfod a monitro clefydau’r ysgyfaint fel COVID-19, mantais mawr uwchsain yw bod sganio’n digwydd ar erchwyn gwely’r claf, sy’n lleihau trosglwyddiadau o’r haint.
“Mae’r dyfeisiau’n llai gan fwyaf, felly mae’n haws eu diheintio. Nid oes ymbelydredd i’r claf ac fel arfer mae mwy o ddyfeisiau uwchsain i’w cael mewn ysbytai, sy’n cynyddu nifer y cleifion y gellir eu sganio pan fydd niferoedd llethol yn llifo i mewn.”
Mae’r Grŵp, a ddechreuodd fel un o gwmnïau deilliannol Prifysgol Caerdydd, MedaPhor, wedi datblygu a rhyddhau’r modiwl ynghylch sganio’r ysgyfaint ag uwchsain, i’w ddefnyddio mewn ysbytai ac ar draws y byd, gan gynnwys y ganolfan efelychu achosion brys yn Ysbyty Nightingale y GIG yng nghanolfan ExCel Llundain.
Mae sganio’r ysgyfaint ag uwchsain yn ddefnyddiol iawn i reoli heintiau resbiradol sy’n gysylltiedig â COVID-19. Mae’r modiwl hyfforddi newydd eisoes wedi’i osod mewn ysbytai yn y DU, UDA, Ewrop ac Asia, ac wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan glinigwyr.
Dywedodd Hannah Conway, Ymarferydd Gofal Critigol Uwch yn Ysbyty Glenfield, Caerlŷr: “Mae ein system BodyWorks wedi cael ei huwchraddio heddiw i gynnwys y modiwl newydd bendigedig ar gyfer sganio’r ysgyfaint ag uwchsain, a fydd yn hynod ddefnyddiol wrth i ni uwchsgilio timau ein Huned Gofal Dwys o ran uwchsain i’r ysgyfaint.
Cynigir modiwl COVID-19 BodyWorks yn rhad ac am ddim i holl gwsmeriaid presennol a newydd PoCUS BodyWorks, ac fe’i rhoddwyd ar y farchnad yr wythnos ddiwethaf er mwyn helpu i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd sy’n gweithio ar reng flaen yr argyfwng byd-eang hwn.
I gael mwy o wybodaeth am efelychydd hyfforddi PoCUS BodyWorks, ewch i: