System Fwyd Gynaliadwy i Ewrop
14 Ebrill 2020
Mae adroddiad newydd gan SAPEA yn egluro'r dystiolaeth gwyddor gymdeithasol ar sut y gellid trawsnewid ein systemau bwyd mewn ffordd gynhwysol, cyfiawn ac amserol. Ceir adolygiad systematig o'r ecosystem polisi bwyd i gyd-fynd â'r adroddiad gan SAPEA, a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd dan oruchwyliaeth Academia Europaea.
Mae Adroddiad Tystiolaeth SAPEA System Fwyd Gynaliadwy i'r Undeb Ewropeaidd yn cynnig sail o dystiolaeth i Farn Wyddonol Grŵp Prif Gynghorwyr Gwyddonol y Comisiwn Ewropeaidd. Gofynnwyd amdano gan y Coleg Comisiynwyr Ewropeaidd ac fe'i lluniwyd gan grŵp amlddisgyblaethol o wyddonwyr blaenllaw, a enwebwyd gan academyddion ar draws Ewrop.
Gofynnodd y Cynghorwyr Gwyddonol hefyd am adolygiad systematig, â'r nod o archwilio'r ecosystem polisi bwyd newidiol yn Ewrop. Fe'i cynhaliwyd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe'i cyhoeddir fel rhan o'r set gyffredinol o dystiolaeth. Cafodd y tîm adolygu o fethodolegwyr ac arbenigwr pwnc gefnogaeth Panel Ymgynghorol, dan arweiniad yr Athro Terry Marsden, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yng Nghaerdydd a'r Athro Roberta Sonnino, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Systemau Bwyd Trefol a Rhanbarthol.
Dywedodd yr Athro Peter Jackson MAE, Cadeirydd y Gweithgor a ysgrifennodd Adroddiad Tystiolaeth yr Adolygiad:
"Mae bwyd yn system eithriadol o gymhleth gydag elfennau cymdeithasol, economaidd ac ecolegol. Eto i gyd mae'n cyfrannu'n sylweddol at allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn chwarae rhan allweddol yn sbarduno newid yn yr hinsawdd. Y system fwyd sy'n gyfrifol am o ddeutu draean o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd. Mae Sefydliad Bwyd ac Amaeth y CU yn amcangyfrif mai cyfanswm cost ariannol bwyd gwastraff yw €900 biliwn mewn costau economaidd a €800 biliwn arall mewn costau cymdeithasol. Dyna pam nad yw "busnes fel arfer" bellach yn opsiwn. Mae ein hadroddiad yn gwneud mwy nag amlygu'r problemau, sy'n cael eu cydnabod yn eang bellach. Mae hefyd yn cynnig amrywiaeth o enghreifftiau ar sail tystiolaeth o'r ffordd y gellid trawsnewid i system fwyd gynaliadwy."
Dywedodd yr Athro Terry Marsden, arweinydd Panel Ymgynghorol yr adolygiad systematig:
"Mae'r adolygiadau a gwblhawyd yn gyfraniad pwysig arloesol ar y gwaith gwyddonol a gwblhawyd ar systemau bwyd cynaliadwy Ewropeaidd. Byddant felly yn ffynhonnell amserol a gwerthfawr o dystiolaeth ddibynadwy i'r Comisiwn Ewropeaidd yn ei waith parhaus ar ddatblygu polisi yn y maes hanfodol hwn."
Mae adroddiad SAPEA yn cyfrannu at lunio Barn Wyddonol Grŵp Cynghorwyr y Comisiwn Ewropeaidd, a gaiff ei chyhoeddi hefyd. Bydd y gwaith yn llywio strategaeth 'O’r Fferm i'r Fforc' newydd y Comisiwn ar gyfer system fwyd gynaliadwy.