Cydnabyddiaeth i gryfderau sydd ar flaen y gad
22 Mawrth 2016
Mae consortiwm o fusnesau a sefydliadau o dde-orllewin Lloegr a de-ddwyrain Cymru, o dan arweiniad GW4, wedi'u dewis i gymryd rhan yng nghylch cyntaf Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS).
Bydd yr Archwiliad yn casglu tystiolaeth ac yn nodi meysydd lle gallai'r consortiwm radori ar lefel fyd-eang ym maes ymchwil, arloesedd a seilwaith.
Drwy adnabod y meysydd allweddol hyn, bydd yr Archwiliad yn amlygu ffyrdd posibl o fanteisio ar y ragoriaeth hon, er mwyn ceisio cryfhau ceisiadau am fuddsoddiad lleol gan y sector preifat a'r UE.
Mae'r consortiwm yn cynnwys ystod eang o fusnesau o bob cwr o’r rhanbarth, pump o Bartneriaethau Menter Lleol (LEPs), 13 o awdurdodau lleol, prifysgolion, sefydliadau ymchwil a chatapyltiau.
Bydd 'Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd De-orllewin Lloegr a De-ddwyrain Cymru' yn cael ei lywio gan Gynghrair GW4, ac mae wedi'i rannu'n bum prif thema sy'n cynrychioli’r meysydd ymchwil ac arloesedd cryfaf sydd eisoes yn bodoli ar draws y consortiwm.
Dyma’r meysydd hyn: Awyrofod ac Uwch-beirianneg; Systemau Ynni Newydd; Microelectroneg y Genhedlaeth Nesaf; Llwyfan Arloesedd Byw'n Ddigidol; a Gwytnwch, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Dros y misoedd nesaf, bydd BIS yn rhoi cefnogaeth ddadansoddol i'r consortiwm, i'w helpu i ymgymryd â'r archwiliadau a darparu cyngor hanfodol ac annibynnol.
Dywedodd yr Athro y Fonesig Glynis Breakwell, Is-Ganghellor Prifysgol Caerfaddon a Chadeirydd Cyngor GW4: "Dyma gyfle ardderchog i ddangos cryfder y gwaith ymchwil a'r arloesedd o'r radd flaenaf, a welir ar draws ein rhanbarthau. Mae ein rhwydwaith sefydlog o bartneriaethau rhwng y byd academaidd a diwydiant yn sylfaen gadarn ar gyfer twf busnes, gwell cynhyrchiant a rôl arweiniol ar gyfer ein rhanbarthau, wrth ysgogi ffyniant economaidd y DU yn y dyfodol."
Crëwyd yr Archwiliadau gan Jo Johnson, y Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth, yn ystod haf 2015, i geisio gwella gallu'r DU i adnabod rhagoriaeth ymchwil parod a newydd, ochr yn ochr â chryfder arloesedd newydd, a dilysu'r rhagoriaeth honno.
Nod yr Archwiliadau yw creu sylfaen dystiolaeth gadarn a phwerus, sy'n dangos cysylltiadau cryf rhwng sefydliadau ymchwil a busnesau, a all fod yn sail i benderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol.