Niferoedd carcharorion yn codi ers cychwyn Covid-19
14 Ebrill 2020
Yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, cyrhaeddodd y nifer o bobl sydd mewn carchardai yng Nghymru ei lefel uchaf erioed yn ystod mis Mawrth 2020.
Ymhlith pryderon cynyddol ynglŷn â lled Covid-19 ar draws ystâd carchardai Cymru a Lloegr, mae data’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn datgelu bod poblogaeth carchardai Cymru wedi cynyddu rhwng mis Chwefror a Mawrth. Mae hyn yn dilyn ymchwil blaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a ganfu bod gan Gymru’r gyfradd carcharu uchaf yng Ngorllewin Ewrop.
Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod Cymru’n parhau i brofi cyfradd uwch o garcharu o fewn y wlad na Lloegr, gyda 163 am bob 100,000 wedi ei garcharu yng Nghymru, a 139 am bob 100,000 wedi ei garcharu yn Lloegr ym mis Mawrth 2020.
Er bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cyhoeddi camau i leihau’r niferoedd sydd mewn carchardai ac i leddfu’r gorlenwi a gafwyd ers cychwyn Covid-19; mae’r data diweddaraf yn dangos mai Carchar Abertawe oedd yr un a orlenwyd fwyaf yng Nghymru a Lloegr yn ystod Mis Mawrth 2020.
Gan ddwyn sylw at y ffaith bod ystod o wasanaethau carchar fel gofal iechyd a thai wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru, dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Robert Jones, bod angen i asiantaethau a gwasanaethau cyhoeddus ymateb yn gyflym i ddiwallu anghenion cartrefedd a gwasanaethau, carcharorion newydd eu rhyddhau.
Dywedodd Dr Robert Jones:
“Pandemig Covid-19 yw’r her fwyaf taer a wynebodd staff carchardai a swyddogion iechyd yng Nghymru erioed.
“Tanlinella’r data carchardai diweddaraf, yr angen am dryloywder pellach ynglŷn â’r ymateb i Covid-19 mewn carchardai yng Nghymru. Wrth ddisgwyl croesawi rhyddhau carcharorion Cymreig fel rhan o ymdrechion y Weinyddiaeth Gyfiawnder i leddfu gorlenwi, parhau i aros y byddwn, i weld pa gamau sydd yn cael eu cymryd i helpu carcharorion yn ôl i’w cymunedau.
“Unwaith eto datgelwyd darlun yma o ystâd carchardai sydd wedi’i orlenwi, gyda chyfradd carcharu afreolaidd o uchel yng nghyd-destun gorllewin Ewrop. Mae hyn yn awgrymu fod angen ymateb cynhwysfawr sydd wedi’i ariannu’n gywir, er mwyn sicrhau bod tai, gofal iechyd a gwasanaethau cymorth boddhaol a digonol ar gael i garcharorion sydd newydd eu rhyddhau.
“Mae’n hanfodol bod llywodraethau Cymru a’r DG yn rhoi’r asiantaethau priodol a gwasanaethau cyhoeddus ar waith, er mwyn sicrhau bod carcharorion sydd newydd eu rhyddhau yn gallu ailadeiladu eu bywydau ar adeg pan fod y gymdeithas y byddan nhw’n cael ei ryddhau iddi yn wynebu chwalfa na welwyd mo’i debyg o’r blaen.”