Miloedd yng Ngemau'r Ymennydd
15 Mawrth 2016
Plant a theuluoedd wrth eu bodd gyda gemau rhyngweithiol sy'n canolbwyntio ar yr ymennydd
Daeth dros 3,700 o bobl i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ddydd Sul ar gyfer cyfres o weithgareddau hwyliog ac addysgol oedd yn rhoi sylw i waith ymchwil y Brifysgol am yr ymennydd.
Roedd Gemau'r Ymennydd yn ddigwyddiad diwrnod o hyd, a rhad ac am ddim. Cafodd ei drefnu gan ymchwilwyr niwrowyddoniaeth o Ysgolion ledled y Brifysgol fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth yr Ymennydd.
Mae'r llu o weithgareddau wedi'u hanelu at blant 8-11 oed, ond roedd pobl o bob oed yn barod i roi cynnig arnynt.
Roedd y gweithgareddau'n cynnwys defnyddio tonnau'r ymennydd i arnofio pêl mewn tiwb, gêm cynnal llawdriniaeth yr ymennydd, a dysgu sut gellir twyllo ein blasbwyntiau.
Roedd car rasio un sedd Cardiff Racing hefyd yn boblogaidd. Tîm o fyfyrwyr peirianneg fecanyddol yn bennaf yw Cardiff Racing, a bydd eu car yn cystadlu o amgylch Ewrop yn erbyn ceir rasio myfyrwyr eraill.
Dywedodd yr Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd, Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yn yr Ysgol Seicoleg: "Mae'n wych bod cynifer o bobl o'r Brifysgol – dros 100 ohonynt - wedi rhoi o'u hamser ddydd Sul i ymgysylltu'r cyhoedd â gwaith y Brifysgol, a gweld cynifer o'r cyhoedd yn dod yno i ddysgu.
"Dyma ddechrau gwych i Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth yr Ymennydd (http://www.dana.org/BAW/)."
Dywedodd yr Athro Frank Sengpiel, Ysgol y Biowyddorau, mai dyma'r pedwerydd tro i Gemau'r Ymennydd gael eu cynnal yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Ychwanegodd: "Eleni, rydym yn arbennig o ddiolchgar am gefnogaeth hynod hael Siemens, yn ogystal â chefnogaeth barhaus Ymddiriedolaeth Wellcome, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a'r Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC)".
Cafwyd arian hefyd gan yr Ysgol Seicoleg hefyd drwy CUBRIC.
Yn ôl Dr Emma Lane o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, cymerodd dros 500 o blant ran mewn gweithgareddau, a rhoddodd lawer o rieni, teidiau a neiniau ac aelodau eraill y teulu, gynnig arnynt hefyd.
Meddai: "Cafwyd dros 3,700 o ymwelwyr, a daeth pobl o bob cwr o Gaerdydd, Cymru, a hyd yn oed o Ffrainc a Hwngari, i'n stondinau wrth iddynt ymweld â'r amgueddfa."
"Roedd y lle'n fwrlwm o frwdfrydedd a chafodd llawer o blant eu cyffroi a'u hysbrydoli gan yr hyn y gwnaethon nhw eu gweld."
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae myfyrwyr PhD wedi bod yn mynd i ysgolion cynradd yng Nghaerdydd i addysgu plant am yr ymennydd a'u hannog i fynd i Gemau'r Ymennydd.
Dywedodd Hannah Furby, Myfyriwr PhD yn CUBRIC: "Dyma'r bedwaredd flwyddyn i mi fod yn gysylltiedig â Gemau'r Ymennydd. Mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i mi fel myfyriwr PhD i ymgysylltu â'r cyhoedd am sut mae'r ymennydd yn gweithio a gweld y mwynhad y mae plant yn ei gael o'r maes."
Disgwylir i Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd y Brifysgol agor yn hwyrach eleni, ac mae staff eisoes wedi dechrau symud i mewn. Costiodd y Ganolfan newydd hon £44m.
Bydd gan y Ganolfan gyfuniad o gyfarpar niwroddelweddu fydd yn ei gwneud yn unigryw yn Ewrop.