Ysgogi twf economaidd
18 Mawrth 2016
Cyfarwyddwr Cyffredinol Busnes a Gwyddoniaeth yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn ymweld â'r Brifysgol
Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol Busnes a Gwyddoniaeth Llywodraeth y DU wedi ymweld â'r Brifysgol, i weld Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd newydd Prifysgol Caerdydd, ac i gyfarfod â'r garfan gyntaf o fyfyrwyr yng nghanolfan ragoriaeth y Brifysgol ar gyfer peirianneg meddalwedd yng Nghymru.
Mae Gareth Davies yn arwain gwaith yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau i ysgogi twf economaidd drwy ymchwil, arloesedd a masnacheiddio, a'r gwaith ar fusnesau newydd a mentergarwch.
Yng nghwmni'r Is-Ganghellor, dechreuodd ymweliad Gareth Davies yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, ble bu'n cwrdd â myfyrwyr sy'n gweithio ar brosiectau go iawn fel rhan o'u hastudiaethau gradd tair blynedd, ac yn cael eu mentora gan beirianwyr meddalwedd profiadol o fyd diwydiant. Sefydlwyd yr Academi y llynedd, i fynd i'r afael â diffyg cenedlaethol o beirianwyr meddalwedd a rhaglenwyr medrus graddedig. Enillodd y wobr 'Partneriaeth Gydweithredol' yng ngwobrau blynyddol ESTnet, i gydnabod ei harloesedd o ran addysgu cymhwysol, a'i phartneriaethau diwydiannol.
Yn ddiweddarach, tywyswyd Mr Davies o amgylch Sefydliad Catalysis Caerdydd gan yr Athro Graham Hutchings, gan glywed sut mae ymchwil catalysis newydd yn helpu i wneud prosesau bob dydd yn gyflymach, yn lanach, yn economaidd ac yn fwy cynaliadwy. Yna, aeth ar daith o amgylch Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd, sydd newydd ei chwblhau, ar safle Campws Arloesedd newydd y Brifysgol, werth £300m.
Mae'r cyfleuster newydd hwn yn gartref i gyfuniad o offer niwroddelweddu sy'n unigryw i Ewrop. Bydd yr offer hyn yn helpu'r Ganolfan i barhau i ddatblygu ymchwil sy'n arwain y byd, sydd eisoes wedi sefydlu Prifysgol Caerdydd yn un o dair prifysgol orau'r DU ar gyfer Niwroddelweddu, Seicoleg a Seiciatreg.