Caerdydd yn rhoi'r profiad gorau yng Nghymru i fyfyrwyr
17 Mawrth 2016
Prifysgol Caerdydd yn mynd heibio i Fangor wrth iddi godi 17 lle i safle rhif 12 yn y DU
Prifysgol Caerdydd sy'n cynnig y profiad gorau i fyfyrwyr yng Nghymru, gan fynd heibio i Brifysgol Bangor, yn ôl Arolwg Profiad Myfyrwyr diweddaraf Times Higher Education (THE).
Wrth ei mesur yn erbyn gweddill prifysgolion y DU, mae Caerdydd bellach yn safle rhif 12 – gan godi 17 lle yn dilyn arolwg y llynedd. Mae Bangor yn safle rhif 14, ac Abertawe yn llusgo y tu ôl ar safle rhif 33.
Mae Arolwg Profiad Myfyrwyr THE wedi'i gynnal ers 11 mlynedd. Mae'n unigryw, am ei fod yn edrych y tu hwnt i'r diffiniad arferol o brofiad myfyrwyr - sy'n cynnwys addysgu, dysgu, asesu ac adborth yn bennaf - i ddiffiniad ehangach, a grëwyd gan fyfyrwyr eu hunain, sy'n cynnwys yr agweddau hynny ar fywyd mewn prifysgol sydd bwysicaf iddynt.
Dywedodd yr Athro Patricia Price, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd:
"Rydym yn falch iawn o fod ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU, a'r brifysgol orau yng Nghymru, yng nghyd-destun profiad myfyrwyr. Mae safle'r Brifysgol ar y cyfan, sydd wedi gwella'n sylweddol, yn benodol ar fesurau fel darlithoedd o ansawdd uchel, cyfleusterau a chyrsiau wedi'u strwythuro'n dda, yn adlewyrchu'r buddsoddiadau sylweddol rydym yn eu gwneud ym mhrofiad myfyrwyr.
"Mae'r rhain yn cynnwys uwchraddio ein mannau dysgu, oriau agor hwy ar gyfer y llyfrgelloedd, canolbwyntio'n helaeth ar asesu ac adborth, a mwy o fynediad at wasanaethau cefnogi myfyrwyr, yn ogystal â sefydlu Canolfan Arloesedd Addysg i wella rhagoriaeth dysgu ac addysgu."
Dywedodd John Gill, golygydd Times Higher Education:
"Mae'r gystadleuaeth gynyddol rhwng prifysgolion a'r canolbwynt dwys ar brofiad myfyrwyr yn dal ar frig yr agenda ar gyfer y sector addysg uwch. Mae ein harolwg mewn sefyllfa ddelfrydol i allu olrhain beth mae hyn yn ei olygu'n ymarferol, a pha brifysgolion sy'n perfformio'n dda mewn meysydd penodol – boed ym meysydd addysgu a dysgu, neu feysydd fel safon y cyfleusterau, y mae llawer o sefydliadau wedi bod yn buddsoddi'n drwm ynddynt."
Mae dros 15,000 o israddedigion amser llawn wedi cymryd rhan yn arolwg eleni, a 4% yn fwy wedi cymryd rhan na'r llynedd. Roedd yr holl ymatebwyr yn aelodau o Banel Myfyrwyr YouthSight – a gaiff eu recriwtio drwy UCAS yn bennaf – a chasglwyd eu safbwyntiau rhwng Hydref 2014 a Mehefin 2015.