Ffair Wyddoniaeth i'r Teulu
11 Mawrth 2016
Gwyddoniaeth 'waw-ffactor' yn diddanu disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd
Bydd rhai o'r gweithgareddau gwyddoniaeth mwyaf cyffrous ac arloesol a gynlluniwyd i ymgysylltu â phobl ifanc yn cael eu dangos yn ddiweddarach y mis hwn, gan ddisgyblion ysgol a myfyrwyr y Brifysgol mewn Ffair Wyddoniaeth i'r Teulu.
Bydd y digwyddiad cyfrwng Cymraeg yn dathlu penllanw cyfres o weithgareddau Clwb Gwyddoniaeth wythnosol a gaiff eu cynnal gan Dr Siân Griffiths o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd.
Bu disgyblion dwy ysgol cyfrwng Cymraeg yn rhoi cynnig ar wahanol weithgareddau gwyddoniaeth a gynlluniwyd gan ymchwilwyr y Brifysgol, i weld pa rai oedd y mwyaf diddorol ac effeithiol. Roedd athrawon ysgol a myfyrwyr y Brifysgol wedi datblygu deunyddiau addysgu dwyieithog, cynlluniau gwersi a gwaith ymarferol i helpu i gefnogi pobl ifanc i ddysgu.
"Mae meysydd allweddol o'r cwricwlwm gwyddoniaeth yn cyfateb i gryfderau ymchwil y Brifysgol, felly roeddem am ddefnyddio ein harbenigedd i greu gwyddoniaeth 'waw-ffactor' ymarferol a oedd yn arddangos ein gwaith ymchwil," eglurodd Dr Griffiths.
Roedd sesiynau ar themâu fel 'pam mae swigod yn byrstio', 'her y newid yn yr hinsawdd' ac 'estroniaid o blanedau pell' yn addysgu'r disgyblion am y cylch dŵr, rôl organebau mewn ecosystemau a goblygiadau newid amgylcheddol ar gyfer ein hiechyd.
Drwy'r Clwb Gwyddoniaeth, roedd disgyblion yn addysgu sgiliau gwyddonol newydd, yn gwella eu dealltwriaeth o egwyddorion gwyddonol ac yn cael rhagor o wybodaeth am waith ymchwil y Brifysgol. Roedd athrawon ysgol hefyd yn meithrin mwy o hyder i gyflawni gweithgareddau gwyddoniaeth.
"Roeddem yn defnyddio gemau a gweithgareddau i helpu i ddatblygu sgiliau gwyddonol allweddol y disgyblion, ac ar yr un pryd, roedd ein myfyrwyr israddedig yn datblygu sgiliau cyfathrebu gwyddoniaeth a sgiliau ymgysylltiad cyhoeddus sy'n bwysig ar gyfer eu cyflogadwyedd yn y dyfodol," ychwanegodd Dr Griffiths.
Yn y Ffair Wyddoniaeth i'r Teulu, a gynhelir yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain (11-20 Mawrth 2016), bydd pobl ifanc o Ysgol Pencae yn dangos beth maent wedi ei ddysgu i'w cyd-ddisgyblion, i'w hathrawon ac i'w rhieni, ac yn rhoi rhai o'r gweithgareddau newydd ar waith. Bydd disgyblion uwchradd o Ysgol Gyfun Plasmawr yn ymuno â nhw, yn ogystal â myfyrwyr a gwyddonwyr o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd.
"Ein nod yw dangos pa mor bwysig yw'r Biowyddorau yn ein bywydau bob dydd, ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a datblygu sgiliau gwyddonol myfyrwyr o bob oed," meddai Dr Griffiths.
Mae'r Clwb Gwyddoniaeth a'r Ffair Wyddoniaeth i'r Teulu yn rhan o nifer o fentrau a gaiff eu cynnal fel rhan o Brosiect Partneriaeth Ysgolion y Brifysgol. Mae'r prosiect yn cefnogi ymgysylltiad uniongyrchol ymchwilwyr â myfyrwyr, ac yn helpu i ddod â chyd-destunau ymchwil cyfoes ac ysbrydoledig i'r maes dysgu ffurfiol ac anffurfiol. Ariennir y Prosiect Partneriaeth gan Gynghorau Ymchwil y DU (RCUK) fel rhan o'u Menter Partneriaethau Ysgol-Prifysgol.