Hwb ariannol o £2M ar gyfer canolfan ymchwil arthritis
11 Mawrth 2016
Cydnabyddir "potensial trawsnewidiol" ymchwil arthritis mewn adnewyddiad cyllid
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael hwb ariannol hanfodol,
gwerth £2M, i barhau â'i gwaith ymchwil arloesol i arthritis.
Mae Ymchwil Arthritis y DU wedi dyfarnu'r arian ar gyfer parhad Canolfan
Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU yn y Brifysgol.
Bydd yr arian yn cefnogi gwaith ymchwil parhaus i osteoarthritis a phoen cefn
cronig, yn bennaf.
Ers ei sefydlu yn 2009, mae'r Ganolfan wedi gwneud darganfyddiadau pwysig mewn
sawl maes yn ei hymdrech i fynd i'r afael ag arthritis a chyflyrau
cysylltiedig.
Gydag arbenigedd mewn biofecaneg, biobeirianneg, ffisiotherapi, orthopaedeg,
mecanodrosglwyddiad, poen, llid a phrofion biofarciwr cleifion; mae tîm y
Ganolfan yn diffinio, yn adnabod ac yn targedu mecanweithiau biofecanyddol sy'n
sail i glefydau poen cefn a chymalau.
Ymysg eu datblygiadau, gallant gyfrif profi triniaethau cyffuriau newydd ar
gyfer arthritis; datblygu 'smentiau asgwrn' newydd sy'n gallu cludo
gwrthfiotigau i leihau heintiau ar ôl cael cymalau newydd; a dulliau diagnostig
ac adsefydlu newydd.
Dywedodd yr Athro Bruce Caterson, Cyfarwyddwr Canolfan Biofecaneg a
Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU:
"Mae'r dyfarniad newydd hwn yn
cadarnhau bod gan Ymchwil Arthritis y DU barch mawr at y Ganolfan a'i hamcanion
ymchwil parhaus.
"Mae hefyd yn cadarnhau cryfder y gwaith ymchwil a wnaed yma yn y Ganolfan
ym Mhrifysgol Caerdydd dros y pum mlynedd diwethaf.
"Yn ystod y tair i bum mlynedd nesaf, ein huchelgais o ran ymchwil yw
datblygu ein canfyddiadau ymchwil yn fudd uniongyrchol i gleifion."
Er enghraifft, mae ymchwilwyr biofeddygol ein Canolfan wedi amlygu sawl targed
cyffur newydd.
Yn ogystal, bydd astudiaeth ar wahân yn datblygu system 'E-adsefydlu' ar sail
biofecanwaith, i gefnogi'r broses o adsefydlu cleifion yn y cartref sy'n
dioddef o anhwylderau'r pen-glin a'r asgwrn cefn.
Dywedodd Stephen Simpson, Cyfarwyddwr Ymchwil a Rhaglenni, Ymchwil Arthritis y
DU:
"Rydym wedi ein hargyhoeddi y gall y cynnydd a wneir
gan Ganolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU, ynghyd ag
ymroddiad ac uchelgais ei thimau ymchwil, arwain at drawsnewid".
"Yr hyn sydd wrth wraidd popeth a wnawn, yw gwella bywydau pobl sy'n
dioddef o arthritis. Bydd y posibilrwydd o weld datblygiadau ymchwil yn y
dyfodol yn rhoi gobaith i'r 10 miliwn o bobl yn y DU sy'n byw gyda phoen
arthritis."
Bydd Prifysgol Caerdydd yn rhoi arian cyfatebol ar gyfer parhad y Ganolfan
hefyd.