Prifysgol Caerdydd yn croesawu enillwyr Ysgoloriaeth Chevening
9 Mawrth 2016
Y Brifysgol yn cryfhau cysylltiadau gydag arweinwyr y dyfodol.
Croesawyd arweinwyr byd y dyfodol i'r Brifysgol fel rhan o raglen ysgoloriaeth fyd-eang uchel ei bri.
Rhaglen ysgoloriaeth fyd-eang llywodraeth y DU yw Chevening, ac mae'n rhan allweddol o ymdrech ddiplomyddiaeth y DU i ddenu gweithwyr proffesiynol ifanc sydd eisoes wedi dangos dawn arwain ragorol, i astudio yn y DU.
Ar ôl cydweithio'n llwyddiannus, dyma'r trydydd digwyddiad i enillwyr Ysgoloriaeth Chevening i gael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r Brifysgol yn parhau i gryfhau ei chysylltiadau â Chevening, gan lofnodi cytundeb partneriaeth ym mis Gorffennaf 2014 i gyd-ariannu deg o Wobrau Partneriaeth Chevening - Caerdydd.
Dywedodd y Llywydd a'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Rwy'n falch iawn bod Prifysgol Caerdydd wedi cryfhau ei chysylltiadau â rhaglen Chevening. Mae nifer yr ysgolheigion sy'n astudio yn y Brifysgol wedi cynyddu'n sylweddol eleni. Mae 44 wedi cofrestru.
"Rydym yn falch o gefnogi dyheadau'r myfyrwyr talentog hyn. Mae digwyddiadau o'r fath yn gyfle unigryw i arweinwyr y dyfodol feithrin rhwydwaith byd-eang o arwyddocâd proffesiynol parhaus, ac i sefydlu partneriaethau cymdeithasol, diwylliannol, academaidd a masnachol â gweddill y DU."
Thema'r digwyddiad oedd 'Y Gorau o Gymru'. Roedd y digwyddiad yn arddangos diwylliant ac iaith unigryw Cymru, ac yn rhoi cipolwg ar wleidyddiaeth gyfoes Cymru a'i statws cyfansoddiadol yn y DU.
Croesawyd enillwyr yr Ysgoloriaeth gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Colin Riordan, a chawsant hefyd gyflwyniad ar yr iaith Gymraeg gan Bennaeth Ysgol y Gymraeg, yr Athro Sioned Davies. Aethant hefyd i ymweld â chartref Cynulliad Cymru, a rhoddodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, gyflwyniad ar wleidyddiaeth Cymru iddynt.
Ers ei lansio ym 1983, mae Chevening wedi datblygu yn gynllun rhyngwladol uchel ei fri. Eleni, bydd y rhaglen yn cefnogi dros 1,800 o unigolion o fwy na 160 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd.
Caiff enillwyr yr Ysgoloriaeth eu dewis yn bersonol gan Lysgenhadaeth Prydain a'r Uchel Gomisiwn mewn amrywiol wledydd ledled y byd. Mae gan Chevening oddeutu 42,000 o gynfyfyrwyr, sy'n ffurfio un o'r rhwydweithiau byd-eang mwyaf dylanwadol ac uchel ei barch.
Mae llawer o'r cynfyfyrwyr wedi mynd yn eu blaenau i ddal swyddi hynod ddylanwadol, ac maent yn cynnwys cyn-Brif Weinidog Bwlgaria, Cadeirydd Cyfnewidfa Stoc Cairo ac Is-Lywodraethwr Banc Diwydiannol a Masnachol Tsieina.