Datrys côd gofal iechyd cynaliadwy
9 Mawrth 2016
Yr Athro Tim Rainer sy'n esbonio sut gall gwersi o'r Ail Ryfel Byd helpu Cymru i ddarparu gofal iechyd brys ar gyfer yr 21ain ganrif.
Mae pawb wedi darllen y penawdau. Amseroedd ymateb araf gan ambiwlansys, straeon dirdynnol gan gleifion, a chyhuddiadau o yrru'r GIG i'r wal. Gwelsom y penawdau hyn yn ystod y cyfnod cyn Etholiad Cyffredinol y llynedd, ac nid oes amheuaeth y byddwn yn eu gweld eto wrth i etholiadau'r Cynulliad fis Mai agosáu.
Ond nid Cymru'n unig sy'n wynebu heriau gofal iechyd acíwt. Ledled y DU, ac mewn mannau eraill, mae pwysau poblogaeth sy'n heneiddio a'r cyfnod o lymder economaidd yn gosod straen gynyddol ar adnoddau sydd eisoes o dan bwysau. Mae polisïau marchnad wedi cyflwyno diwylliant lle mae elw yn aml yn bwysicach na'r cleifion, ac mae anghenion y gwasanaeth yn dechrau cael sylw ar draul addysg ac ymchwil, sydd yr un mor bwysig.
Mae gwyddoniaeth wedi rhoi datblygiadau hollbwysig i ni o ran gofal meddygol, ac mae ein hadrannau damweiniau ac achosion brys yn rhoi mynediad cyflym i ni at ofal, ymchwiliadau a thriniaeth o ansawdd uchel. Ond gyda phob cam ymlaen, daw disgwyliad cynyddol bod rhaid i'n gwasanaeth iechyd addasu ac ymateb i heriau gofal iechyd y byd modern.
Felly beth yw'r ateb? Nid yw dirywiad mewn gofal iechyd o ansawdd yn anochel; nid yw pob gwlad wedi methu yn wyneb yr her hon. Rhaid i Gymru efelychu arferion llwyddiannus mewn mannau eraill, ac ynysu a goresgyn y rhannau hynny o'n system sydd wrth wraidd y broblem.
Fodd bynnag, efallai y gellid dod o hyd i'r gwersi mwyaf addawol yn y llyfrau hanes. Mae'r DU yn enwog am ddyfeisio ac arloesi, ond mae hefyd yn enwog am beidio â rhoi'r dyfeisiau hyn ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn. Mathemategwyr Prydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd wnaeth ddatblygu'r cyfrifiaduron cyntaf, yn eu hymdrechion i ddatrys côd Enigma'r Almaen, gan osod y sylfeini ar gyfer y rhyngrwyd. Llwyddodd Prydain i ddatrys codau'r Enigma ac arbed bywydau di-rif drwy ddod â'r rhyfel i ben. Dylai felly allu cyflawni'r un gamp ar gyfer gofal iechyd.
Roedd y torwyr côd ym Mharc Bletchley yn wynebu pos oedd fwy neu lai'n amhosibl ei ddatrys, ond llwyddon nhw i wneud hynny drwy gyfuniad o ddeallusrwydd, pwrpas a blaenoriaeth. Wrth recriwtio'r meddyliau gorau, daethpwyd â'r bobl gorau a mwyaf disglair ynghyd i ddatrys codau'r Natsïaid. Ac yn union fel y recriwtiwyd torwyr côd Bletchley o'n prifysgolion a thrwy groesair y Daily Telegraph, ni ddylem ofni edrych y tu hwnt i'r GIG er mwyn dod o hyd i'r amrywiaeth o dalent a meddwl agored y mae arnom ei hangen.
Ond nid dyna'r cyfan. Roedd gan y torwyr côd ym Mharc Bletchley dasg gyffredin i'w huno, sef cefnogi ymdrech y rhyfel. Mae angen yr un ymdeimlad o bwrpas i achub bywydau dynion, menywod a phlant ledled Cymru yn y ganrif hon. Mae goresgyn budd personol a budd uniongyrchol yn hanfodol wrth godi safonau a darparu'r arweinyddiaeth gref a phenodol y mae arnom ei hangen i gyflwyno system ofal o'r radd flaenaf.
Ni allwn anwybyddu'r arian ychwaith. Yn ôl Winston Churchill, fe wnaeth ei fuddsoddiad ym Mharc Bletchley dalu ar ei ganfed. Ni chyfyngwyd ar yr arian a wariwyd ar y cyfleuster cyfrinachol a roddodd i'r Cynghreiriaid y wybodaeth angenrheidiol i ennill y rhyfel. Ar adeg lle mae gwariant cyhoeddus yn mynd yn fwyfwy tynn, dylem gofio rôl hanfodol gofal iechyd brys ar reng flaen y GIG. Mae'r arian priodol yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall gwasanaethau damweiniau ac achosion brys chwarae eu rhan wrth wneud y GIG yng Nghymru yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Gellir datrys llawer o broblemau presennol y GIG gyda systemau TG a gaiff eu gweithredu'n briodol. Saith deg o flynyddoedd ar ôl i Alan Turing a'i gydweithwyr ddatblygu'r prototeipiau cyntaf, mae'n bosibl mai cyfrifiaduron yw'r allwedd i lawer o'r problemau sy'n wynebu ymarferwyr ym mhob rhan o'r GIG.
Nid oes rhaid i ofal iechyd cynaliadwy fod yn enigma. Wrth i ni fod yn unedig yn ein pwrpas, yn uchelgeisiol yn ein dull gweithredu ac ymrwymo ein hadnoddau, gall ein system gofal iechyd ymateb i heriau'r byd modern. Fel y torwyr côd ym Mharc Bletchley, gall y system barhau i achub bywydau dynion a menywod ledled Cymru.
Mae'r Athro Tim Rainer yn Athro Meddygaeth Frys ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyhoeddwyd ei sylwadau yn gyntaf yn y Western Mail ddydd Llun 7 Mawrth 2016.