Cyllid i Gymru yn llai na'r hyn a allai fod ei angen i ymateb i’r coronafeirws, yn ôl academyddion
9 Ebrill 2020
Dylai cyfyngiadau ar allu Llywodraeth Cymru i fenthyg arian gael eu llacio'n sylweddol i ymdopi â phandemig Covid-19, yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae ymchwilwyr ar raglen Dadansoddi Cyllid Cymru yn dweud y dylai Cymru gael mwy o hyblygrwydd i reoli ei chyllid yn ystod y cyfnod eithriadol hwn. Byddai diwygio pwerau benthyg dros dro yn galluogi’r wlad i gael gafael ar filiynau yn rhagor o arian, a allai gael eu neilltuo ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol megis y GIG a gofal cymdeithasol.
Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer prosiectau cyfalaf y gall Llywodraeth Cymru fenthyg arian neu wneud iawn am ddiffygion mewn refeniw trethi. Ni all fenthyg arian i dalu am wariant o ddydd i ddydd, a chaiff ei gyfyngu i fenthyg hyd at £125m y flwyddyn o gyfrif a elwir yn Gronfa Wrth Gefn Cymru - ac mae eisoes wedi cyrraedd yr uchafswm hwn.
Gyda'r cyfyngiadau hyn ar waith, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r gwariant i frwydro yn erbyn y coronafeirws drwy ddefnyddio trosglwyddiadau o Lywodraeth y DU drwy fformiwla Barnett - yn seiliedig ar gyfran y boblogaeth o'r gwariant yn Lloegr - a thrwy ailddyrannu arian sydd eisoes yn ei chyllideb ei hun.
Er nad ydym wedi gweld yr effaith lawn ar Gymru yn ystod y pandemig eto, mae'r adroddiad yn dadlau y gallai ffactorau fel poblogaeth hŷn Cymru a lefelau uwch o bobl ag afiechyd ac anableddau olygu nad yw'r dyraniad hwn yn adlewyrchu'r gofynion ychwanegol a wynebir gan wasanaethau cyhoeddus.
Meddai’r ymchwilydd Guto Ifan: "O ystyried maint yr argyfwng iechyd ac economaidd o ganlyniad i bandemig Covid-19, mae angen diwygiadau brys er mwyn i Lywodraeth Cymru allu ymateb mewn ffordd sy'n diwallu anghenion ein dinasyddion.
"Nid yw'r fformiwla ariannu a ddefnyddir i benderfynu ar gyllid ychwanegol i Gymru yn seiliedig ar angen, a byddai hyn yn risg pe byddai Cymru’n cael ei heffeithio’n gymharol fwy gan y Coronafeirws.
"O ystyried bod cyfraddau llog ar eu lefelau isaf erioed, gallai'r gallu i fenthyg ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd hefyd fod yn adnodd pwysig dros dro i fynd i'r afael â'r pandemig dros y misoedd nesaf, boed hynny'n gyllid ar gyfer gwasanaethau rheng flaen yn y GIG a gofal cymdeithasol, neu'n help gyda biliau a chostau byw.
"Rydym yn cynnig opsiynau yn yr adroddiad i Lywodraeth y DU addasu'r fframwaith cyllidol – y rhain yw’r trefniadau ar gyfer dosbarthu cyllid i Gymru."
Dywed ymchwilwyr y byddai dileu'r cyfyngiadau ar ostyngiadau o Gronfa Wrth Gefn Cymru yn rhoi £155 miliwn yn ychwanegol o wariant o ddydd i ddydd ar gyfer 2020-21.
Ar hyn o bryd, gall Llywodraeth Cymru fenthyg hyd at £200m y flwyddyn, a hyd at uchafswm o £500m i gyd. Dim ond i dalu am ddiffygion mewn refeniw trethi y gall yr arian hwn gael ei ddefnyddio, ac ni all ariannu gwariant arfaethedig o ddydd i ddydd, sy'n cynnwys yr ymateb ariannol i Covid-19.
Hyd yma, mae camau cyllideb Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar gynnig cymorth i fusnesau drwy'r system cyfraddau annomestig, sy’n costio tua £1.3bn, a phecyn cymorth gwerth £1.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r cyllid ar gyfer y camau hyn yn deillio'n bennaf o 'gyllid canlyniadol Barnett ' yn sgîl cyhoeddiadau polisi yn Lloegr.
Ychwanegodd Guto Ifan: "Mae'n ansicr iawn i ba raddau y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu dod o hyd i arbedion sylweddol pellach o rannau eraill o'r gyllideb i ariannu ei hymateb i’r Coronafeirws. Mae angen cymryd camau i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael cefnogaeth lawn yn ystod y cyfnod anodd hwn."