Yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn ennill gwobr dechnoleg
4 Mawrth 2016
Canolfan ragoriaeth y Brifysgol ar gyfer peirianneg meddalwedd yn cael ei chydnabod am gydweithio'n agos â busnesau
Mae Academi Meddalwedd Genedlaethol (NSA) Prifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr am gydweithio'n agos â busnesau mewn seremoni wobrwyo technoleg genedlaethol.
Sefydlwyd yr Academi y llynedd, i fynd i'r afael â diffyg cenedlaethol o beirianwyr meddalwedd a rhaglenwyr medrus yng Nghymru. Enillodd y wobr 'Partneriaeth Gydweithredol' yng ngwobrau blynyddol ESTnet.
Mae'r gwobrau hyn yn dathlu rhagoriaeth yn y sector electroneg, meddalwedd a thechnolegau yng Nghymru, ac maent wedi cydnabod cysylltiadau pwysig NSA â busnesau, sy'n llunio rhan ganolog o nod yr Academi, sef rhoi'r sgiliau perthnasol i fyfyrwyr, i'w paratoi ar gyfer gwaith pan fyddant yn graddio.
Mae myfyrwyr sy'n rhan o'r Academi yn gweithio ar brosiectau go iawn drwy gydol eu hastudiaethau, ac yn cael eu mentora gan beirianwyr meddalwedd profiadol o fyd diwydiant.
Drwy ryngweithio â'r diwydiant a chael profiad cyflawn o sut i farchnata cynnyrch a rhedeg busnes, mae'r myfyrwyr yn datblygu profiad yn y gwaith, sy'n gwella eu rhagolygon cyflogaeth yn y pen draw.
Lansiwyd y rhaglen gradd tair blynedd (BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol) y llynedd, mewn partneriaeth â Sefydliad Alacrity, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd y wobr i Matthew Turner, Rheolwr Prosiect yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 2 Mawrth, o flaen 350 o westeion o'r diwydiant technoleg.
Dywedodd Mr Turner: "Mae'n wych ein bod ni wedi gallu meithrin cynifer o gysylltiadau cryf â busnesau blaenllaw yng Nghymru mewn cyfnod byr o amser. Rwy'n falch bod hyn wedi'i gydnabod gan rwydwaith arobryn o arbenigwyr technoleg yn ESTnet.
"Mae busnesau'n rhan sylfaenol o'r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni yma yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, ac rwy'n hyderus y bydd y gydnabyddiaeth hon yn ein helpu i ddenu mwy o bobl i ddod i weithio gyda ni."
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart: "Dyma newyddion ardderchog, sy'n cydnabod y gwaith cydweithredol a wneir gan yr Academi. Rwy'n hynod o falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi menter mor bwysig, a fydd yn gwneud yn siŵr bod gan gwmnïau yng Nghymru fynediad at weithwyr proffesiynol medrus iawn, sydd â'r sgiliau iawn, yr hyfforddiant a'r profiad ymarferol i gefnogi twf eu busnesau, yn ogystal â'r sector ehangach."
Dywedodd yr Athro Simon Gibson, Cadeirydd Sefydliad Alacrity: "Rwy'n falch iawn y cydnabuwyd yr Academi Meddalwedd Genedlaethol am ei harloesedd o ran addysgu cymhwysol, a'i phartneriaethau diwydiannol. Mae'r Academi yn datblygu graddedigion rhagorol sy'n barod ar gyfer y byd gwaith, sy'n gallu bod yn gynhyrchiol o'r eiliad y byddant yn ymuno â'r gweithle, ac sy'n gallu cyfrannu at lwyddiant eu cyflogwyr ar unwaith. At hynny, drwy gysylltiad yr Academi â Sefydliad Alacrity, mae cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid meddalwedd yn cael eu paratoi i greu cwmnïau newydd yn economi Cymru hefyd."