Amrywiaeth erchyll o arferion claddu Oes yr Haearn
2 Mawrth 2016
Ymchwil yn dangos y ffyrdd amrywiol ac anarferol yr oedd y meirw'n cael eu trin dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl
Mae ymchwilwyr o'r Amgueddfa Hanes Naturiol a Phrifysgol Caerdydd wedi darganfod arferion claddu anarferol ac erchyll Prydeinwyr Oes yr Haearn.
Yn hytrach na'r dull poblogaidd a dderbynnir o 'gladdu agored' ar ben mynydd neu ddignodio, daeth i'r amlwg i ymchwilwyr bod gan Brydeinwyr dair defod benodol ar gyfer y meirw dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl:
- datgladdu (claddu cychwynnol a datgladdu flynyddoedd yn ddiweddarach)
- amlygiad rhannol (mewn pyllau, cyn adfer rhannau o'r corff sy'n pydru)
- dignodio (cwbl agored i'r elfennau gan arwain at ddignodio'r corff)
Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau sydd wedi ariannu'r prosiect hwn. Roedd y gwaith yn cynnwys cynnal dadansoddiad microsgopig newydd o esgyrn dynol o ddau safle Oes yr Haearn yng nghanolbarth-de Prydain – Danebury, y fryngaer sydd wedi'i chloddio fwyaf ym Mhrydain, a Suddern Farm gerllaw iddi yn Hampshire.
Meddai Dr Richard Madgwick, sy'n Ddarlithydd yn y Gwyddorau Archaeloegol yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: "Mae esgyrn dynol yn bethau prin yn y cofnod archaeolegol o Oes yr Haearn ac mae'r hyn yr oedd Prydeinwyr y cyfnod yn ei wneud gyda'u meirw yn parhau'n un o'r dirgelion archaeolegol mawr. Mae'r olion sy'n cael eu hadfer yn tueddu i ddod o byllau storio grawn ar aneddiadau. Mae'r rhain yn aml ar ffurf cyfluniadau anarferol, gan gynnwys rhannau o'r corff sydd ar wahân, ffragmentau unigol a phenglogau. Dignodio yw'r esboniad sydd wedi ennill ei blwyf am sut yr oedd y meirw'n cael eu trin, oherwydd byddai hynny wedi achosi'r corff i ddatgymalu a dinistrio'r olion yn y pen draw.
"Mae ein hymchwil yn dangos darlun llawer mwy cymhleth ac erchyll o ddiwylliant Gorllewinol modern. Cafodd rhai cyrff eu claddu ac wedyn eu datgladdu flynyddoedd yn ddiweddarach. Roedd rhai esgyrn yn cael eu symud ac efallai'n cael eu cadw fel creiriau teuluol. Roedd cyrff eraill yn cael eu rhoi mewn pyllau dwfn a allai fod wedi'u gorchuddio. Byddai pobl yn mynd yn ôl atynt er mwyn dewis rhannau oedd yn pydru a'u symud i fannau eraill. Cafodd un unigolyn ei adael yn agored i'r elfennau, ond efallai nad dyma'r ffordd y cafodd y rhan fwyaf o bobl eu trin," meddai Dr Madgwick wrth grynhoi.
Dywedodd Dr Tom Booth, fu'n gweithio ar y prosiect pan oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Sheffield ac sydd erbyn hyn yn gweithio yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol: “Mae'r dechneg newydd hon sy'n defnyddio microsgopeg golau ar rannau tenau yn gallu dangos agweddau o gladdu a fyddai'n guddiedig fel arall. Mae hyn yn ein helpu i ddeall defodau a chredoau coll y Prydeinwyr hynafol. Y gweithgarwch bacterol cynnar sy'n gwneud i'r corff bydru, a hyn hefyd sy'n peri dadfeiliad mewnol yr asgwrn. Mae pob asgwrn archaeolegol yn cynnwys cofnod o gamau pydru cynnar y corff gan olygu ein bod yn cael cipolwg digynsail ar sut cafodd y corff ei drin yn ystod y diwrnodau a'r misoedd wedi iddo farw."
Yn groes i'r farn mai dignodio (neu adael y corff yn yr awyr agored) oedd y brif ddefod gladdu i bobl ym Mhrydain yn Oes yr Haearn, daeth i'r amlwg i ymchwilwyr bod y rhan fwyaf o'r olion naill ai'n rhannol agored mewn pyllau dyfnion oedd yn cadw grawn, neu wedi'u hatgladdu flynyddoedd wedi iddynt farw. Dim ond un enghraifft o ddignodi a nodwyd.
Mae'r papur - New evidence for diverse secondary burial practices in Iron Age Britain - ar gael yn rhifyn Mawrth 2016 y Journal of Archaeological Science.