Y Brifysgol yn croesawu Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd Meddwl
1 Mawrth 2016
Luciana Berger AS yn ymweld â Chanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd newydd
Mae Luciana Berger AS, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid dros Iechyd Meddwl, wedi ymweld â'r Brifysgol i gael gweld dros ei hun sut bydd buddsoddi mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf yn gwneud gwahaniaeth go iawn wrth helpu ymchwilwyr i ddeall salwch meddwl yn well.
Ymwelodd Luciana Berger â Chanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe gostiodd y cyfleuster newydd hwn £44m i'w hadeiladu ac mae'n cynnwys cyfuniad o offer sy'n unigryw yn Ewrop. Bydd ganddi'r adnoddau i astudio meysydd newydd am yr ymennydd ac yn helpu ymchwilwyr i ddeall achosion cyflyrau megis dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol.
Mae ei hymweliad yn dod ychydig cyn Diwrnod Iechyd Meddwl a Lles y Brifysgol a gynhelir ar 3 Mawrth. Nod y digwyddiad yw hyrwyddo iechyd meddwl pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y sector addysg uwch.
Yn ystod ei hamser yma, ymwelodd Luciana Berger â Sefydliad Ymchwil Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl y Brifysgol hefyd. Mae'r sefydliad hwn wedi dod â chryfderau academaidd ym meysydd seiciatreg, seicoleg a'r niwrowyddorau ynghyd er mwyn defnyddio canfyddiadau newydd i gael gwell dealltwriaeth a diagnosis o salwch meddwl ac anhwylderau'r ymennydd.
Cafodd hefyd y cyfle i gwrdd ag ymchwilwyr o'r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol sy'n adeiladu cronfa o tua 4,000 o wirfoddolwyr. Bydd y rhain yn rhoi deunyddiau i alluogi gwyddonwyr i ddysgu rhagor am beth sy'n achosi anawsterau iechyd meddwl fel iselder, anhwylder deubegwn, sgitsoffrenia, ADHD a PTSD, yn ogystal ag arwain ymdrechion yn y gymuned i fynd i'r afael â stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl.
Dywedodd Luciana Berger AS, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid dros Iechyd Meddwl: "Mae angen chwyldroi'r ffordd yr ydym yn ystyried ac yn trin salwch meddwl yn y DU. Rhoi mwy o bwyslais ar atal salwch meddwl yw un o'r prif newidiadau sydd eu hangen, a rhaid cael dealltwriaeth gliriach o'r achosion yn y lle cyntaf i allu gwneud hynny. Dyna pam fy mod wrth fy modd yn ymweld â'r ganolfan ymchwil ragorol hon yng Nghaerdydd, a chael cwrdd ag arbenigwyr mor ymroddedig. Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn ysbrydoledig. Rwyf yn hyderus y bydd yn arwain at roi triniaethau gwell ar gyfer salwch meddwl i filiynau o bobl."
Dywedodd yr Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd y Brifysgol: "Mae Prifysgol Caerdydd yn hen law ar ymgymryd ag ymchwil ym maes iechyd meddwl. Mae buddsoddi mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf fel y rhain yn cryfhau enw da'r Brifysgol ymhellach fel canolfan ragoriaeth. Drwy gydweithio'n agos â diwydiant a llunwyr polisïau, gall ymchwilwyr droi datblygiadau gwyddonol yn fanteision gwirioneddol i gleifion yng Nghymru a ledled y byd".