Glanhau afonydd i frwydro’n erbyn newid hinsawdd
1 Mawrth 2016
Lleihau llygredd afonydd yn cynnig "budd gwirioneddol" yn erbyn newid yn yr hinsawdd
Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Radboud yn yr Iseldiroedd, gall cynlluniau i wario £3 biliwn ar lanhau afonydd Cymru a Lloegr o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd hefyd helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Defnyddiodd y tîm astudiaethau labordy a thros 40,000 o samplau o afonydd
Prydain i ddangos sut mae rhai anifeiliaid y dŵr yn llai abl i oddef tymheredd
cynhesach mewn dŵr llygredig.
Yn y labordy, roedd gwybed Mai megis y meilart gwyrdd (Effemera danica) a’r
pry melynwyrdd (Serratella ignita) yn gallu goroesi tymheredd a oedd 3-5
°C yn uwch
pan oedd digonedd o ocsigen o’i gymharu â phan nad oedd digon.
Yn yr un modd, mewn afonydd yng Nghymru a Lloegr, mae ocsigeneiddio gwael, sy’n
cael ei achosi gan lygredd, wedi lleihau nifer y rhywogaethau hyn yn sylweddol,
ac yn enwedig mewn amodau cynhesach.
Dyma'r tro cyntaf i astudiaethau maes ac astudiaethau labordy gael eu defnyddio
fel hyn i asesu sut y gall lleihau llygredd helpu i addasu afonydd ar gyfer y
newid yn yr hinsawdd.
"Mae pryfed dŵr oer, gan gynnwys llawer o wybed Mai, mewn tair gwaith cymaint o berygl mewn dŵr llygredig,” eglurodd uwch awdur yr astudiaeth, yr Athro Steve Ormerod.
"Yn gyntaf, does dim cymaint o ocsigen mewn
dŵr sydd â thymheredd uwch. Yn ail, mae ar bryfed angen mwy o ocsigen i
ymdopi a’u hanghenion wrth i'r tymheredd godi. Yn drydydd, defnyddir
ocsigen i ymddatod llygredd organig, ac mae hyn yn digwydd gyflymaf mewn
dyfroedd cynhesach.
"Mae'r tair effaith hyn yn golygu mai dyfroedd llygredig a chynnes yw’r
cyfuniad gwaethaf."
Creda’r Athro Oremord y gall y canlyniadau hyn ysgogi trafodaeth ynglŷn â
gwerth aelodaeth UE Prydain wrth ddiogelu'r amgylchedd.
Er bod gweithredu cyfreithiau'r UE megis y cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn
gostus, meddai, yn ôl y dystiolaeth hon gallant arwain agweddau pwysig o wella
a diogelu’r amgylchedd wrth i'r hinsawdd newid.
Ychwanegodd Dr Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr newydd Prifysgol Caerdydd:
"Mae ein gwaith yn cynnig gobaith gwirioneddol
yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o
leihau effeithiau’r cynhesu yn y dyfodol, ac mae ein data yn dangos sut y gall
rheoleiddio a lleihau llygredd fod yn wirioneddol fuddiol.
"Mae ein dadansoddiadau yn y gorffennol yn dangos mai mewn afonydd trefol
y mae Prydain wedi adfer gyflymaf ar ôl goddef llygredd. Yn aml, dyma lle
gwelir yr effeithiau cynhesu mwyaf difrifol o ganlyniad i newid yn yr
hinsawdd.”
Gwaith monitro hirdymor Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru sydd
wedi darparu’r data maes helaeth ar gyfer yr astudiaeth.
Cyhoeddir y gwaith yn y cyfnodolyn
blaenllaw Global Change Biology .