Dadorchuddio partneriaeth arloesi clinigol yn BioCymru 2016
1 Mawrth 2016
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phrifysgol Caerdydd yn gweithio'n agosach ym maes arloesi clinigol
Mae partneriaeth i droi ymchwil clinigol arloesol yn gynnyrch ac yn wasanaethau clinigol blaengar wedi cael ei ddatgelu yn BioCymru 2016.
Mae’r cytundeb rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd yn cryfhau eu hymrwymiad i ddarparu gofal iechyd gwell i gleifion a chreu cyfoeth yng Nghymru. Ei nod yw cyflymu sut mae arloesi clinigol yn cael ei droi yn welliannau i wasanaethau clinigol ac iechyd.
Yn seiliedig ar berthynas hir-sefydlog, daw’r cytundeb â’r ddau sefydliad yn agosach, i weithio ar amrywiaeth o heriau gan gynnwys:
- mynd i'r afael â dementia – manteisio ar arbenigedd clinigol ac academaidd ar draws y Bwrdd Iechyd a'r Brifysgol
- datblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol er mwyn cael canlyniadau gwell mewn iechyd
- gwella diagnosteg yn ymwneud â meddygaeth fanwl
Nid yw Arloesi Clinigol yn gysyniad newydd i Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae gan y ddau sefydliad hanes cryf o gydweithio, ond mae'r bartneriaeth yn cadarnhau'r ymrwymiad i gyflymu sut mae arloesi clinigol yn cael ei droi’n welliannau mewn gwasanaethau clinigol ac iechyd.
Bydd y bartneriaeth yn datblygu’r berthynas â diwydiant, Byrddau Iechyd Prifysgol eraill a’r Llywodraeth er mwyn troi’r ymchwil presennol yn fanteision i’r cleifion ac i iechyd, ac i adnabod anghenion clinigol sydd heb eu cwrdd, er mwyn llywio ymchwil y dyfodol.
Gan gefnogi menter Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r sector gwyddorau bywyd, nod y bartneriaeth yw cynyddu eiddo deallusol y gellir ei ddefnyddio'n fasnachol, ysgogi creu cyfoeth a sefydlu Cymru fel canolfan ragoriaeth ym maes arloesi clinigol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: "Mae gan Cymru enw da ledled y byd am arloesi clinigol eisoes. Bydd ymrwymiad cryfach i gydweithio gan y Brifysgol a'r Bwrdd yn sicr yn newyddion da i gleifion, i ddiwydiant ac i economi ehangach Cymru."
Mae Caerdydd eisoes yn 'Ganolfan Ragoriaeth' mewn rhwydwaith o ganolfannau datblygu meddygaeth fanwl ledled y DU. Mae'n un o chwe chanolfan a enwyd fis Hydref diwethaf fel rhan o brosiect Precision Medicine Catapult gwerth £50m a ariennir gan Innovate UK, asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU.
Dywedodd Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: "Nid yw ein ffocws ar arloesi clinigol mewn partneriaeth â'r Brifysgol yn seiliedig yn unig ar athroniaeth sydd gennym ni yn gyffredin. Mae'n cael ei atgyfnerthu mewn nifer o ffyrdd ymarferol – trwy benodi Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Arloesi, trwy gysylltu gwella ansawdd parhaus ag arloesi clinigol, a thrwy greu gofod ffisegol ar safle'r prif ysbyty lle y gall meddyliau arloesol gyfarfod i ddatblygu ffyrdd gwych o wella bywydau cleifion."
Ychwanegodd yr Athro Keith Harding, Deon y Brifysgol ar gyfer Arloesi Clinigol ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Gwella Clwyfau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: "Bydd y bartneriaeth yn troi cwestiynau ymchwil yn atebion 'yn y byd go iawn', gan gasglu syniadau wrth glinigwyr, academyddion a myfyrwyr. Trwy gydweithio'n well, byddwn yn datblygu ffyrdd arloesol o yrru gofal clinigol yn ei flaen er budd pawb."
Canolbwynt arloesi clinigol a chydweithio’r dyfodol bydd y MediCentre ym Mharc y Mynydd Bychan. A hwnnw eisoes yn gartref i sawl cwmni rhyngwladol sydd ar flaen y gad, bydd y MediCentre yn ganolfan fydd yn magu nifer o fusnesau a phrosiectau clinigol newydd arloesol.
Dywedodd yr Athro Ian Weeks, Deon Arloesi Clinigol Ysgol Feddygaeth a Choleg Gwyddorau Bywyd a Biofeddygol Prifysgol Caerdydd: "Bydd datblygu canolfan arloesi clinigol ym Mharc y Mynydd Bychan yn creu 'drws ffrynt' lle gall y ddau sefydliad gydweithio i gyflawni nodau sydd ganddynt yn gyffredin. Bydd yn sefydlu 'man gwrthdaro' lle bydd modd ymchwilio i ffyrdd arloesol o weithio, datblygu syniadau, a rhoi cyngor a chymorth i arloeswyr y dyfodol, o'r byd academaidd, GIG neu ddiwydiant."
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter Prifysgol Caerdydd: "Mae arloesi clinigol yn rhan allweddol o fuddsoddiad cyfalaf gwerth £300m y brifysgol. Bydd y bartneriaeth yn gweithio gyda'r GIG, busnesau a sefydliadau llwyddiannus eraill o fewn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol er mwyn dod â ffyniant ehangach i Gaerdydd, i Gymru a thu hwnt."