Cwlt Enwogrwydd: arwyr modern i blant ysgol
26 Chwefror 2016
Mae ymchwil newydd, gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), wedi datgelu’r bobl enwog mae disgyblion ysgol yn eu hedmygu ac yn eu casáu mwyaf.
Mae'r canfyddiadau yn datgelu mai’r enwogion sy’n cael eu hedmygu fwyaf yw enwogion a phobl ym myd chwaraeon: gyda Jessie J, Taylor Swift a Beyonce yn y tri lle uchaf.
Gwnaeth disgyblion enwebu amrywiaeth eang o bobl – gan ymestyn yn nhrefn yr wyddor o Adele ac Adolf Hitler i Zara Philips a Zayn Malik. Er bod yna enwebiadau ar gyfer ymgyrchwyr gwleidyddol ac awduron, roedd bron i dri chwarter o’r holl enwebiadau ar gyfer sêr y byd pop a phersonoliaethau chwaraeon.
“Mae natur arwyr a dihirod plant wedi cael ei chraffu yn gynyddol mewn blynyddoedd diweddar oherwydd ceir ofn bod dylanwad rhyw drwm ar bobl ifanc heddiw gan 'ddiwylliant poblogaidd', ac yn benodol 'cwlt yr enwogion',” esbonia Dr Kevin Smith.
Daw’r canfyddiadau o ran o arolwg hunan-gwblhau mwy o fewn prosiect Addysg WISERD, ym Mhrifysgol Caerdydd. Gofynnwyd i blant nodi pa tri unigolyn enwog roeddynt yn eu hedmygu fwyaf a’r tri roeddynt yn eu casáu fwyaf. Darparodd y disgyblion dros 7000 o enwau. Canolbwyntiodd yr ymchwilwyr ar yr 'enwogion' hynny a nodwyd fel 'arwr' neu 'dihiryn' gan o leiaf pum ymatebydd.
“Ar gyfer y rheiny sy'n ymwneud ag addysg, mae yna bryderon ychwanegol bod plant a phobl ifanc yn edrych i fyny at unigolion ni ddylid edrych i fyny atynt - unigolion y mae eu henwogrwydd byrhoedlog yn seiliedig ar lwc, medr corfforol neu dalent gyfyngedig, yn hytrach na chyflawniadau mwy parhaus a buddiol yn gymdeithasol. Yn gysylltiedig â hynny, honnwyd bod 'cwlt yr enwogion' yn creu hinsawdd lle mae pobl ifanc yn ceisio gwireddu eu
hunain drwy 'enwogrwydd' ac yn gwrthod y llwybr mwy traddodiadol at lwyddiant – cyflawniad academaidd, gwaith caled a chymwysterau addysgol. Er gwaethaf yr holl bryderon hyn, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi'i wneud ar bwy y mae plant a phobl ifanc mewn gwirionedd yn eu hedmygu ac yn eu casáu.”
“Gallwn weld bod pryderon am 'ddal' pobl ifanc gan ddiwylliant poblogaidd yn ymddangos i gael eu cyfiawnhau,” esboniodd yr Athro Sally Power. “Ac eithrio Jessica Ennis-Hill (athletwr), mae pob benyw sy’n 'arwr' yn yr 20 uchaf yn gantorion pop. Mae’r dynion sy’n 'arwyr' yn cynnwys sêr y byd pop (ac un 'band bechgyn'), ond yn bennaf pêl-droedwyr a chwaraewyr rygbi ydynt (mae pedwar yn chwarae ar gyfer timau cenedlaethol Cymru). Enwebwyd dau wleidydd yn unig – gyda Barrack Obama yn y 40fed lle a Boris Johnson (Maer Llundain Geidwadol) yn y 100fed lle.”
Tynnir yr enwebiadau 'casáu' o ystod ehangach o feysydd, gan gynnwys actorion, cyflwynwyr a gwleidyddion – gyda Phrif Weinidog y DU David Cameron ymhlith y '10 uchaf' mwyaf amhoblogaidd – dau le o flaen Adolf Hitler.
“Os ydym yn ystyried bod yr enwebiadau hyn yn ddangosol o werthoedd pobl ifanc yna ymddengys bod rhesymau da i gredu rhai o'r ofnau gwaethaf am ddylanwad diwylliant poblogaidd ar werthoedd pobl ifanc. Er enghraifft, gellid dadlau bod eu dewisiadau’n arddangos diffyg gallu i wahaniaethu rhwng cyfraniadau parhaus o werth cymdeithasol a'r rhai sy'n fwy ysbeidiol. A yw cyflawniadau Nelson Mandela (sydd dim ond yn ymddangos fel 'arwr' yn y 34ain lle) yn cael eu diarddel y tu ôl i gyflawniadau cantorion pop y mae llawer o bobl yn cael trafferth i gofio eu henwau o gwbl? Mewn gwirionedd, a yw Justin Bieber yn haeddu i gael ei gasáu gan gymaint yn fwy o bobl ifanc nag Adolf Hitler neu Osama bin Laden? Fodd bynnag, byddai hyn yn ddehongliad gor-syml iawn o'r data,” mae’r Athro Power yn parhau.
Yn ogystal, roedd y mwyafrif (55%) o’r 84 o ddihirod yn arwyr pobl eraill. Mae'r canfyddiadau yn awgrymu efallai bod rhai enwebiadau yn llai o bosibl i ymwneud â’r bobl enwog eu hunain ac yn fwy i ymwneud â’r ffordd mae pobl ifanc yn meithrin teyrngarwch. 'Wedi’i weld yn y ffordd hon, gellir gweld edmygedd neu gasineb ar gyfer pobl enwog penodol fel ffurf o waith hunaniaeth o ran cadarnhad a pherthyn diwylliannol. Mae hyn yn amlwg yn y gwahaniaethau clir rhwng y rhywiau – o ran yr ymatebwyr a’u henwebiadau,' crynhoa'r Athro Power.
Canfuwyd bod patrymau tebyg o enwebu o ran ethnigrwydd. Roedd dros 70% o enwebiadau ymatebwyr gwyn ar gyfer pobl wyn enwog, tra roedd ymatebwyr a oedd yn Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) ddwywaith mor debygol o enwebu unigolyn BAME enwog nag ymatebwyr gwyn. 'Mae ‘hil’ a ‘rhywedd’ yn arbennig o arwyddocaol yn y dirwedd o enwogion ac mae enwebiadau ein pobl ifanc yn adlewyrchu’r dirwedd hon. Fel y mae dynion wedi’u gorgynrychioli yn y rhan fwyaf o feysydd bywyd cyhoeddus yn gyffredinol, nid yw'n syndod eu bod yn cael eu gorgynrychioli yn enwebiadau ein pobl ifanc o 'arwyr' a 'dihirod,' ychwanegodd yr Athro Power.
“Mae patrymau’r hyn yn awgrymu bod y defnydd o bobl enwog ac enwogion wrth ddatblygu hunaniaeth a theyrngarwch yn gallu darparu’r 'glud' ar gyfer datblygu cysylltiadau
cymdeithasol a chadarnhau llwyddiannau menywod a phobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Fodd bynnag, mae meysydd eu cyflawniadau – yn enwedig ar gyfer menywod - yn gymharol gul sydd yr un mor debygol o ddwysáu â herio syniadau o lwyddiant menywod a lleiafrifoedd ethnig,” daeth yr Athro Power i’r casgliad.